Cyfarfodydd

Sesiynau craffu gyda Gweinidogion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/11/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 5)

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

 


Cyfarfod: 09/11/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Sarah Rhodes, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio

Sarah Rhodes, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai

Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu amserlen ddangosol ar gyfer cyflwyno Bil yn ymwneud â digartrefedd.

 

2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu dadansoddiad o'r 5,575 o dai fforddiadwy newydd a ddarparwyd ers 2021, gan gynnwys faint o'r rhain sy'n cyfrannu tuag at darged Llywodraeth Cymru o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd i'w rhentu erbyn diwedd tymor y Senedd hon.

 

2.4 Cytunodd y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr uwchgynhadledd sydd ar ddod yn ymwneud â ffosffadau mewn afonydd.

 

2.5 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu ffigur mewn perthynas â nifer y bobl sy'n manteisio ar y cynllun Cymorth i Aros.

 

 


Cyfarfod: 16/11/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chraffu cyffredinol ar waith y Gweinidogion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chraffu cyffredinol ar waith y Gweinidogion.

 


Cyfarfod: 16/11/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â chraffu cyffredinol ar waith y Gweinidogion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â chraffu cyffredinol ar waith y Gweinidogion.

 


Cyfarfod: 29/09/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Jo Larner, Pennaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau, Llywodraeth Cymru

Tanya Wigfall, Pennaeth y Rhaglen Datgarboneiddio Preswyl, Llywodraeth Cymru

Simon White, Pennaeth Deddfwriaeth Tai, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Jo Larner, Pennaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau, Llywodraeth Cymru

Tanya Wigfall, Pennaeth y Rhaglen Datgarboneiddio Preswyl, Llywodraeth Cymru

Simon White, Pennaeth Deddfwriaeth Tai, Llywodraeth Cymru

 

2.2. Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddarparu papur yn amlinellu’r fformiwla ar gyfer gosod rhent cymdeithasol yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 29/09/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 6)

Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - trafod y dystiolaeth a ddeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3 a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar nifer o faterion a godwyd.

 


Cyfarfod: 29/09/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 3)

3 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Llywodraeth Leol a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru

Emma Smith, Pennaeth Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Llywodraeth Leol a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru

Emma Smith, Pennaeth Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

 

3.2. Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu:

·         Nodyn ar lefelau’r cronfeydd wrth gefn a gedwir i ddelio â’r argyfwng costau byw, ar ôl i’r gyllideb atodol gael ei chyhoeddi.

·         Nodyn ar y ffyrdd gorau posibl o ddefnyddio cronfeydd pensiwn awdurdodau lleol yng Nghymru.

·         Manylion am glercod cynghorau tref a chymuned sy'n weithgar yn wleidyddol mewn cynghorau.

·         Rhagor o wybodaeth am effaith cael gwared ar y gronfa democratiaeth ddigidol ar anghenion digidol llywodraeth leol.

 


Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 9)

9 Diweddariad ar sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBCau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

 


Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 22 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 22 Medi 2021.

 


Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 22 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 22 Medi 2021.

 


Cyfarfod: 03/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â dyraniadau o Gronfa wrth gefn Covid-19 Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.9.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â dyraniadau o Gronfa wrth gefn Covid-19 Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 22/09/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

4 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Francois Samuel, Pennaeth Rheoliad Adeiladu, Llywodraeth Cymru

Dr Jess Pearce, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Diogelwch, Rheoleiddio a Gwelliannau Tai, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

·       Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

·       Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

·       Francois Samuel, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru

·       Dr Jess Pearce, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Diogelwch, Rheoleiddio a Gwelliannau Tai, Llywodraeth Cymru

 


Cyfarfod: 22/09/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 7)

Sesiynau craffu ar waith Gweinidogion – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 4 a 5

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 4 a 5 a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar nifer o faterion a godwyd.

 


Cyfarfod: 22/09/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 5)

5 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng Covid-19, Llywodraeth Cymru

Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Trawsnewid a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

·         Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng Covid-19, Llywodraeth Cymru

·         Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Trawsnewid a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru

 

5.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu:

·         Nodyn ar waith y panel taliadau annibynnol mewn perthynas â chyflogau’r Cynghorwyr, yn ogystal â chopi o adroddiad blynyddol y panel, pan gaiff ei gyhoeddi;

·         Nodyn ar weddill yr arian (£2 biliwn) oedd heb ei ddyrannu yng nghyllideb atodol mis Mehefin 2021;

·         Diweddariad ar argymhellion a gwaith presennol y Panel Adolygu Annibynnol ar gynghorau cymuned a thref.