Cyfarfodydd

Sesiynau craffu gyda Gweinidogion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/11/2025 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 5)

Sesiynau craffu gyda Gweinidogion: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 05/11/2025 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Gwaith craffu cyffredinol gyda Gweinidog: Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

 

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Richard Baker, Dirprwy Gyfarwyddwr - Tir, Llywodraeth Cymru

Matthew Wellington, Dirprwy Gyfarwyddwr - Is-adran Polisi Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Michael Kay, Dirprwy Gyfarwyddwr - Etholiadau, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai a'i swyddogion gwestiynau gan yr Aelodau.

2.2     Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu'r wybodaeth ganlynol y gofynnodd y Pwyllgor amdani:

 

        Diweddariad yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad arfaethedig gan y grŵp gorchwyl a gorffen ar asedau cymunedol.

        Diweddariad ar y defnydd o'r canllawiau gwirfoddol ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig sy'n cyflwyno ymgeiswyr mewn etholiadau Cymru yn dilyn y cyfarfod arfaethedig rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip a phleidiau gwleidyddol.

 


Cyfarfod: 27/11/2024 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 5)

5 Llythyr gan Lywodraeth Cymru gyda gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 10 Hydref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4     Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 14/11/2024 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 5)

5 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai mewn cysylltiad ag adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ar y Farchnad Adeiladu Tai ym Mhrydain Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2     Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 10/10/2024 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 6)

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1     Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 10/10/2024 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 3)

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Jayne Bryant AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Reg Kilpatrick - Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Judith Cole - Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Polisi Cyllid a Chynaliadwyedd Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Richard Baker - Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Tir, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

3.1     Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.

 


Cyfarfod: 10/10/2024 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Jayne Bryant MS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Emma Williams - Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Sarah Rhodes - Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisïau Tai, Llywodraeth Cymru

Jo Larner - Pennaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.

2.2     Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y Tasglu Tai Fforddiadwy, gan gynnwys cylch gorchwyl y tasglu hwnnw.

2.3     Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am unrhyw gynnydd posibl o ran y Grant Cymorth Tai ar gyfer 2025-26.

2.4     Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am nifer y cartrefi fydd yn cael eu hadeiladu ar y 68 safle y mae materion ffosffad wedi atal y gwaith o godi tai arnynt.

2.5     Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i roi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am y gwaith trawslywodraethol sy’n cael ei wneud i ymchwilio i gadernid y sector adeiladu presennol a beth sydd angen ei wneud i gefnogi’r sector hwnnw.

2.6     Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith y Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol, ynghyd â rhagor o wybodaeth ynghylch pam nad yw 5 o’r 22 Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i’r Cynllun Grant, gan gynnwys y rhesymau dros beidio ag ymrwymo a beth arall y gellir ei wneud i helpu i gael gwared ar rwystrau posibl.

2.7     Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu rhagor o wybodaeth am y lefelau gwahanol o bremiwm y dreth gyngor sy’n cael eu cymhwyso gan awdurdodau lleol ar eiddo gwag ledled Cymru, ac a yw’r ymyriad yn cael effaith.

 

 


Cyfarfod: 09/11/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 5)

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

 


Cyfarfod: 09/11/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Sarah Rhodes, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio

Sarah Rhodes, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai

Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu amserlen ddangosol ar gyfer cyflwyno Bil yn ymwneud â digartrefedd.

 

2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu dadansoddiad o'r 5,575 o dai fforddiadwy newydd a ddarparwyd ers 2021, gan gynnwys faint o'r rhain sy'n cyfrannu tuag at darged Llywodraeth Cymru o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd i'w rhentu erbyn diwedd tymor y Senedd hon.

 

2.4 Cytunodd y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr uwchgynhadledd sydd ar ddod yn ymwneud â ffosffadau mewn afonydd.

 

2.5 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu ffigur mewn perthynas â nifer y bobl sy'n manteisio ar y cynllun Cymorth i Aros.

 

 


Cyfarfod: 16/11/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â chraffu cyffredinol ar waith y Gweinidogion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â chraffu cyffredinol ar waith y Gweinidogion.

 


Cyfarfod: 16/11/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chraffu cyffredinol ar waith y Gweinidogion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chraffu cyffredinol ar waith y Gweinidogion.

 


Cyfarfod: 29/09/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 6)

Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - trafod y dystiolaeth a ddeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3 a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar nifer o faterion a godwyd.

 


Cyfarfod: 29/09/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 3)

3 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Llywodraeth Leol a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru

Emma Smith, Pennaeth Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Llywodraeth Leol a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru

Emma Smith, Pennaeth Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

 

3.2. Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu:

·         Nodyn ar lefelau’r cronfeydd wrth gefn a gedwir i ddelio â’r argyfwng costau byw, ar ôl i’r gyllideb atodol gael ei chyhoeddi.

·         Nodyn ar y ffyrdd gorau posibl o ddefnyddio cronfeydd pensiwn awdurdodau lleol yng Nghymru.

·         Manylion am glercod cynghorau tref a chymuned sy'n weithgar yn wleidyddol mewn cynghorau.

·         Rhagor o wybodaeth am effaith cael gwared ar y gronfa democratiaeth ddigidol ar anghenion digidol llywodraeth leol.

 


Cyfarfod: 29/09/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Jo Larner, Pennaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau, Llywodraeth Cymru

Tanya Wigfall, Pennaeth y Rhaglen Datgarboneiddio Preswyl, Llywodraeth Cymru

Simon White, Pennaeth Deddfwriaeth Tai, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Jo Larner, Pennaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau, Llywodraeth Cymru

Tanya Wigfall, Pennaeth y Rhaglen Datgarboneiddio Preswyl, Llywodraeth Cymru

Simon White, Pennaeth Deddfwriaeth Tai, Llywodraeth Cymru

 

2.2. Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddarparu papur yn amlinellu’r fformiwla ar gyfer gosod rhent cymdeithasol yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 9)

9 Diweddariad ar sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBCau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

 


Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 22 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 22 Medi 2021.

 


Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 22 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 22 Medi 2021.

 


Cyfarfod: 03/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â dyraniadau o Gronfa wrth gefn Covid-19 Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.9.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â dyraniadau o Gronfa wrth gefn Covid-19 Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 22/09/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 7)

Sesiynau craffu ar waith Gweinidogion – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 4 a 5

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 4 a 5 a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar nifer o faterion a godwyd.

 


Cyfarfod: 22/09/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 5)

5 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng Covid-19, Llywodraeth Cymru

Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Trawsnewid a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

·         Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng Covid-19, Llywodraeth Cymru

·         Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Trawsnewid a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru

 

5.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu:

·         Nodyn ar waith y panel taliadau annibynnol mewn perthynas â chyflogau’r Cynghorwyr, yn ogystal â chopi o adroddiad blynyddol y panel, pan gaiff ei gyhoeddi;

·         Nodyn ar weddill yr arian (£2 biliwn) oedd heb ei ddyrannu yng nghyllideb atodol mis Mehefin 2021;

·         Diweddariad ar argymhellion a gwaith presennol y Panel Adolygu Annibynnol ar gynghorau cymuned a thref.


Cyfarfod: 22/09/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

4 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Francois Samuel, Pennaeth Rheoliad Adeiladu, Llywodraeth Cymru

Dr Jess Pearce, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Diogelwch, Rheoleiddio a Gwelliannau Tai, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

·       Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

·       Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

·       Francois Samuel, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru

·       Dr Jess Pearce, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Diogelwch, Rheoleiddio a Gwelliannau Tai, Llywodraeth Cymru