Cyfarfodydd

Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Crynodeb o'r cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/09/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (Eitem 8)

8 Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Adolygiad o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Crynodeb o'r cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.

8.2 Nododd y Pwyllgor fod y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon blaenorol wedi gwneud rhywfaint o waith ar ôl cyhoeddi Adroddiad ar y cyd cyntaf Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru yn 2019 ac mae'r Pwyllgor olynol yn ymwybodol o'r Adroddiad diweddaru hwn. Nododd y Pwyllgor hefyd y gwaith parhaus sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r materion a godwyd a bod Archwilio Cymru yn bwriadu cynnal astudiaeth ddilynol bellach mewn 12-18 mis.