Cyfarfodydd

P-06-1178 Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1178 Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd yn gynnes ar ganlyniad llwyddiannus, gan fod Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Galwad gyffredinol y deisebydd yw i bob disgybl ysgol gael prydau ysgol am ddim, ond mae hwn yn gam sylweddol tuag at gyflawni’r uchelgais hwnnw.

 

Cytunwyd mewn ymateb i gwestiynau pellach gan y deisebydd y byddai atebion sydd wedi’u gwneud yn hysbys yn cael eu casglu a’u hanfon at y deisebydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. [diweddarwyd ar 21/01/22]

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1178 Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd ar ddylanwadu ar feddylfryd y Gweinidog, gan ychwanegu bod y Pwyllgor yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau terfynol maes o law. Cytunodd y Pwyllgor i gadw'r ddeiseb ar agor tan y bydd canlyniadau'r adolygiad cymhwystra ar gael.

 


Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1178 Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i anfon sylwadau'r deisebydd at y Gweinidog wrth iddo lunio adolygiad, a gofyn a fyddai modd i’r adolygiad gynnwys costau a manteision darparu prydau ysgol am ddim i bawb.