Cyfarfodydd
P-06-1177 Darparu cynhyrchion mislif yn rhad ac am ddim i bob person sy'n cael mislif yng Nghymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)
2 P-06-1177 Darparu cynhyrchion mislif yn rhad ac am ddim i bob person sy’n cael mislif yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Briff Ymchwil, Eitem 2
PDF 166 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, 6 Awst 2021, Eitem 2
PDF 270 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i nodi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sydd ar ddod ar y Cynllun
Gweithredu Strategol ar Urddas Mislif ac i annog y deisebydd i gymryd rhan yn
yr ymgynghoriad fel ffordd wych o fynd â'r ymgyrch hon ymhellach. Wrth wneud
hynny cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd am godi mater mor bwysig, ac
ychwanegodd fod yr Aelodau yn cefnogi'r ddeiseb yn llawn, a chau'r ddeiseb.
Staff y pwyllgor i sicrhau bod y deisebydd yn cael manylion am yr ymgynghoriad
pan fydd yn dechrau.