Cyfarfodydd
NDM7768 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/07/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 14/07/2021 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 14/07/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19
NDM7768 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr
ymdriniwyd â phandemig COVID-19 yng Nghymru.
Cyd-gyflwynwr:
Sian Gwenllian
(Arfon)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.39
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7768
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod y Senedd:
Yn
galw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig
COVID-19 yng Nghymru.
Cyd-gyflwynwr:
Sian Gwenllian (Arfon)
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
29 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.22 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y
Dirprwy Lywydd.