Cyfarfodydd

P-06-1173 Amddiffyniad Cyfreithiol i Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1173 Amddiffyniad Cyfreithiol i Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae’n parhau i fod yn gynghorydd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf tan ddiwedd y dydd ar 9 Mai 2022

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, o gofio ymateb cadarn y Gweinidog bod y fframwaith polisi Ardaloedd Tirwedd Arbennig presennol yn darparu digon o amddiffyniad, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd, ac annog Aelodau unigol o'r Senedd i fynegi pryderon pan fyddant yn codi.

 

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1173 Amddiffyniad Cyfreithiol i Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i dynnu sylw at ei bryderon ynghylch dylanwad presennol Ardaloedd Tirwedd Arbennig, gan gytuno i ofyn a oes unrhyw ffordd o gryfhau'r rhain.