Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb i adroddiadau’r Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 


Cyfarfod: 14/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 12)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

NDM7867 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mai  a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd a 3 Rhagfyr 2021, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 2)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.07

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7867 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mai  a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd a 3 Rhagfyr 2021, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 2)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

1

12

58

Derbyniwyd y cynnig.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.32 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.


Cyfarfod: 13/12/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) Llywodraeth Cymru ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).  

 

Nododd y Pwyllgor bod y Gweinidog wedi ymateb i’w adroddiadau ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol blaenorol ar y Bil, a bod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn o ran y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil wedi'i threfnu ar gyfer dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2021.

 


Cyfarfod: 10/12/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

4 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) a’r adroddiad drafft ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd arno, yn amodol ar y newidiadau a drafodwyd.

 


Cyfarfod: 06/12/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 14)

14 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) - trafod yr adroddiad drafft diwygiedig.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor fersiwn ddiwygiedig o'i adroddiad ar Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) Llywodraeth Cymru. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 06/12/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 14)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)


Cyfarfod: 06/12/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 14)

14 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a osodwyd ar 3 Rhagfyr 2021.

 


Cyfarfod: 06/12/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 14)

14 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) - Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

 

LJC(6)-16-21 - Papur 37 – Nodyn cyngor cyfreithiol

LJC(6)-16-21 – Papur 41 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 01/12/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 9)

9 Y wybodaeth ddiweddaraf am Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a bu’n trafod materion i'w codi yn ei adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 01/12/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).

 


Cyfarfod: 01/12/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).

 


Cyfarfod: 29/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 8)

8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) – trafod yr adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir), a chytunodd arno, yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 23/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 50

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad diwygiedig o 9 Rhagfyr ar gyfer y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir);

 

 


Cyfarfod: 22/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) - trafod yr adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir). Cytunodd y Pwyllgor i drafod fersiwn ddiwygiedig o'r adroddiad yn ei gyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Anna Hind, Cyfreithiwr y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru

Francois Samuel, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).

 


Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 8)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Cofnodion:

8.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a’r Bil Diogelwch Adeiladau: Trafod y dystiolaeth – CANSLWYD


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 2)

2 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a’r Bil Diogelwch Adeiladau: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd – CANSLWYD

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Anna Hind, Cyfreithiwr Llywodraeth, Llywodraeth Cymru

Francois Samuel, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru

Simon White, Pennaeth Deddfwriaeth Tai, Llywodraeth Cymru

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Diogelwch Adeiladau

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

 


Cyfarfod: 03/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

 


Cyfarfod: 11/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)

6 Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a'r Gweinidog Newid Hinsawdd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

LJC(6)-09-21 – Papur 17 – Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, 1 Hydref 2021

LJC(6)-09-21 – Papur 18 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor  Llywodraeth Leol a Thai, 24 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth mewn perthynas â’r Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).

 


Cyfarfod: 06/10/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 3)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad llafar ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

 


Cyfarfod: 22/09/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 3)

3 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd ar nifer o faterion a godwyd.

 


Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

 

LJC(6)-05-21 – Papur 88 – Nodyn cyngor cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.