Cyfarfodydd
Cyllideb Comisiwn y Senedd 2022-23
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/01/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Taliad Costau Byw 2022-23 i Staff y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr gynnig i gefnogi gweithwyr y
Comisiwn ar y cyflogau isaf gyda thaliad Costau Byw, a’r rheswm dros
gasgliadau’r Bwrdd Gweithredol. Cytunodd y Comisiwn i wneud y canlynol:
· cefnogi penderfyniad y Bwrdd Gweithredol i wneud taliad o
£500 i holl gyflogeion y Comisiwn y mae eu cyflog ar raddfeydd TS ac M3 (EO)
(staff sy’n cael cyflog is na £32,000 cyfwerth ag amser llawn);
· cefnogi penderfyniad y Bwrdd Gweithredol i wneud taliad
llawn i'r holl staff cymwys, gan gynnwys staff rhan amser ar sail ei Asesiad
o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EQIA);
· nodi bwriad y Bwrdd Gweithredol i wneud y taliad hwn mewn
tri thaliad llai, rhwng mis Ionawr a mis Mawrth; a
chefnogi penderfyniad
y Bwrdd Gweithredol i beidio â gwneud y taliad hwn i staff contractwyr, ac, yn
hytrach, yn cefnogi penderfyniad i ysgrifennu at gyrff sydd â chontractau yn
annog trefniadau tebyg.
Cyfarfod: 19/01/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Ail Gyllideb Atodol Comisiwn y Senedd 2022-23
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa
ariannol y Comisiwn yn 2022-23. Tynnwyd sylw at y ffaith bod cyllideb atodol
sy’n lleihau’r gofyniad arian parod cyffredinol gan £0.975 miliwn wedi cael ei
hargymell. Dyma’r prif ffactorau a oedd llywio’r gyllideb atodol hon:
· Y ffaith bod y cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant
Gwladol cyflogwyr wedi cael ei wrthdroi
· Gostyngiad yn y ddarpariaeth ar gyfer gwyliau blynyddol a
gronnwyd
· Rhagolwg o danwariant yn y cyllidebau a glustnodwyd ar
gyfer i) Penderfyniad y Bwrdd Taliadau, ii) cymorth i'r Bwrdd Taliadau a iii)
cymorth i swyddfa’r Comisiynydd Safonau
· Gweithredu’r Safonau Adrodd Ariannol Ryngwladol 16 newydd
– Prydlesi.
Cytunodd y Comisiynwyr i nodi a chymeradwyo’r Memorandwm
Esboniadol, mewn perthynas â’r ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2022-23, i’w
gyflwyno i’w gynnwys yng nghynnig Llywodraeth Cymru yn Chwefror 2023 ar gyfer y
gyllideb. Byddai hyn yn lleihad o £1.075 miliwn i’r Gyllideb Atodol Gyntaf a
osodir ar gyfer 2022-23, sef gostyngiad o £0.975 miliwn yn y gofyniad arian
parod net.
Cymeradwywyd hefyd y
llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i gyd-fynd â'r Gyllideb Atodol
arfaethedig.
Cyfarfod: 26/09/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Llythyr diweddaru y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus / y Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Cytunwyd ar lythyr i
roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus am y cynnydd mewn perthynas â phlastig untro a gwariant ar gyflenwyr
o gwmnïau o Gymru.
Cyfarfod: 09/05/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb Atodol 2022-23
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
- Cyfyngedig 14
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 2022-23.
Nodwyd y wybodaeth a ddarparwyd, a diweddariad llafar yn ymwneud â'r costau a nodwyd
i gefnogi'r gwaith o weinyddu'r Bwrdd Taliadau Annibynnol (y sbardunau sydd
wedi cynyddu llwyth gwaith y Bwrdd, a'i strategaeth ynghyd â'r rhaglen waith
amlinellol y mae wedi cytuno arni ar gyfer y Chweched Senedd). Gofynnodd y Comisiynwyr hefyd am i wybodaeth
ychwanegol gael ei pharatoi ar eu cyfer am y defnydd o'r 'car ar gyfer pawb' a
thrafodwyd annog defnyddio cerbyd trydan mewn cysylltiad â’r cerbyd hwnnw.
Cytunodd y Comisiwn ar y Memorandwm Esboniadol er mwyn cyflwyno Cyllideb
Atodol i'w chynnwys yng nghynnig cyllideb cyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer
2022-23. Byddai hyn yn golygu cynnydd o £2.061 miliwn i’r Gyllideb a osodwyd ar
gyfer 2022-23, gyda chynnydd o £0.325 miliwn o ganlyniad i hynny yn y gofyniad
arian parod net. Ystyriodd y Comisiynwyr mai'r cam nesaf fyddai i'r Pwyllgor
Cyllid graffu ar y Memorandwm Esboniadol.
Byddai'r newidiadau a nodir yn y Memorandwm Esboniadol yn ymwneud â:
-
chynnydd o £1.736
miliwn yn y gyllideb gyffredinol, i adlewyrchu'r safon newydd - Safon Adrodd
Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16 – Prydlesi, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2022. Ni
fydd hyn yn cynyddu'r gofyniad arian parod net.
-
newidiadau i’r
gyllideb a nodwyd ar gyfer Penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar Gyflogau
a Lwfansau'r Aelodau. Nid yw newidiadau a gynigir i linellau'r gyllideb unigol
yn arwain at unrhyw gynnydd cyffredinol;
-
cynnydd net o £150,000
yn y gyllideb gyffredinol a'r gofyniad arian parod net; yng ngoleuni'r costau i
gefnogi'r gwaith o weinyddu’r Bwrdd Taliadau Annibynnol (cynnydd o £218,000) a
Swyddfa'r Comisiynydd Safonau (gostyngiad o £68,000), (gyda thryloywder
ychwanegol ar y costau hyn yn y gyllideb hon ac mewn cyllidebau a osodir yn y
dyfodol);
-
cynnydd o £175,000 yn
y gyllideb gyffredinol a'r gofyniad arian parod net, i adlewyrchu'r cynnydd
mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.
Byddai'r Comisiynwyr
yn cael briff ysgrifenedig yn ymwneud â chefnogi’r gwaith o weinyddu'r Bwrdd
Taliadau Annibynnol, gyda gwybodaeth ychwanegol i'w chynnwys yn y llythyr y
cytunir arno at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Cyfarfod: 31/01/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Llythyr i fynd i'r afael ag argymhellion y Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Ymateb i’r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â’r Gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 21
- Cyfyngedig 22
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth
ddiweddaraf am hynt Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22 drwy'r broses
graffu.
Cytunodd y Comisiynwyr
ar eu hymateb i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid a gwnaethant
gymeradwyo'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2022-23 a osodwyd ar 10 Tachwedd.
Cyfarfod: 27/09/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb y Comisiwn 2022-23
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
- Cyfyngedig 27
- Cyfyngedig 28
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23, a adlewyrchodd
y strategaeth y cytunwyd arni yng nghyfarfod y Comisiwn ar 12 Gorffennaf.
Fe wnaethant ystyried blaenoriaethau o ran prosiectau ar gyfer 2022-23 a'u
dull o fynd i’r afael â’r pwysau ychwanegol tebygol ar Gyllideb Ddrafft
2022-23, yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am gynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant
Gwladol.
Cytunodd y Comisiynwyr i osod cyllideb ddrafft y Comisiwn o £62.942 miliwn,
gan nodi y gallai cyhoeddiadau cyllideb y DU alw am ystyriaethau diweddarach
ynghylch cyllideb atodol.
At hynny, nododd y
Comisiwn ddatganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid, a’r llythyr a anfonwyd gan
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Cyfarfod: 12/07/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Strategaeth Cyllideb Ddrafft 2022-23
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Darparwyd cefndir a
chyd-destun i Gomisiynwyr i lywio eu syniadau ynghylch strategaeth y gyllideb
ac ystyried dulliau gweithredu mewn perthynas â'r gyllideb ar gyfer 2022-23.
Ar ôl myfyrio ar
rinweddau cymharol y dewisiadau amgen a'r wybodaeth a ddarparwyd, gofynnodd y
Comisiwn i waith gael ei wneud ar Opsiwn C. Roedd hyn er mwyn cymryd i
ystyriaeth yr angen i ystyried y capasiti sydd ei angen i gyflawni mewn ffyrdd
sy'n addas i anghenion yr Aelodau, er enghraifft parhau i weithio’n hybrid.
Byddai Cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2022-23 yn cael ei chyflwyno i'r
Comisiwn yn ei gyfarfod ym mis Medi cyn cael ei gosod yn unol â gofynion y
Rheolau Sefydlog.
Trafododd y
Comisiynwyr hefyd y prosiect ffenestri newydd, a fu’n destun adroddiad
dichonoldeb a gynhaliwyd yn ystod 2020 i gael cyngor arbenigol i lywio
penderfyniad i’r dyfodol ar oblygiadau'r gyllideb, yr amseru a'r gwaith sydd ei
angen i roi ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel yn raddol.
Trafododd y Comisiynwyr
yr angen, yng nghyd-destun gofynion cyffredinol llety yn y dyfodol a chytunwyd
y dylid parhau’r trafodaethau yn ôl amserlen a fyddai'n caniatáu i'r materion
hyn gael eu hystyried yn gyfochrog.