Cyfarfodydd

Cyllideb Comisiwn y Senedd 2022-23

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/01/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Taliad Costau Byw 2022-23 i Staff y Comisiwn

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr gynnig i gefnogi gweithwyr y Comisiwn ar y cyflogau isaf gyda thaliad Costau Byw, a’r rheswm dros gasgliadau’r Bwrdd Gweithredol. Cytunodd y Comisiwn i wneud y canlynol:

·       cefnogi penderfyniad y Bwrdd Gweithredol i wneud taliad o £500 i holl gyflogeion y Comisiwn y mae eu cyflog ar raddfeydd TS ac M3 (EO) (staff sy’n cael cyflog is na £32,000 cyfwerth ag amser llawn);

·       cefnogi penderfyniad y Bwrdd Gweithredol i wneud taliad llawn i'r holl staff cymwys, gan gynnwys staff rhan amser ar sail ei Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EQIA);

·       nodi bwriad y Bwrdd Gweithredol i wneud y taliad hwn mewn tri thaliad llai, rhwng mis Ionawr a mis Mawrth; a

chefnogi penderfyniad y Bwrdd Gweithredol i beidio â gwneud y taliad hwn i staff contractwyr, ac, yn hytrach, yn cefnogi penderfyniad i ysgrifennu at gyrff sydd â chontractau yn annog trefniadau tebyg.


Cyfarfod: 19/01/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Ail Gyllideb Atodol Comisiwn y Senedd 2022-23

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5
  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol y Comisiwn yn 2022-23. Tynnwyd sylw at y ffaith bod cyllideb atodol sy’n lleihau’r gofyniad arian parod cyffredinol gan £0.975 miliwn wedi cael ei hargymell. Dyma’r prif ffactorau a oedd llywio’r gyllideb atodol hon:

·       Y ffaith bod y cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr wedi cael ei wrthdroi

·       Gostyngiad yn y ddarpariaeth ar gyfer gwyliau blynyddol a gronnwyd

·       Rhagolwg o danwariant yn y cyllidebau a glustnodwyd ar gyfer i) Penderfyniad y Bwrdd Taliadau, ii) cymorth i'r Bwrdd Taliadau a iii) cymorth i swyddfa’r Comisiynydd Safonau

·       Gweithredu’r Safonau Adrodd Ariannol Ryngwladol 16 newydd – Prydlesi.

Cytunodd y Comisiynwyr i nodi a chymeradwyo’r Memorandwm Esboniadol, mewn perthynas â’r ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2022-23, i’w gyflwyno i’w gynnwys yng nghynnig Llywodraeth Cymru yn Chwefror 2023 ar gyfer y gyllideb. Byddai hyn yn lleihad o £1.075 miliwn i’r Gyllideb Atodol Gyntaf a osodir ar gyfer 2022-23, sef gostyngiad o £0.975 miliwn yn y gofyniad arian parod net.

Cymeradwywyd hefyd y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i gyd-fynd â'r Gyllideb Atodol arfaethedig.


Cyfarfod: 26/09/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Llythyr diweddaru y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus / y Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 10

Cofnodion:

Cytunwyd ar lythyr i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am y cynnydd mewn perthynas â phlastig untro a gwariant ar gyflenwyr o gwmnïau o Gymru.


Cyfarfod: 09/05/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb Atodol 2022-23

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 13
  • Cyfyngedig 14
  • Cyfyngedig 15

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 2022-23. Nodwyd y wybodaeth a ddarparwyd, a diweddariad llafar yn ymwneud â'r costau a nodwyd i gefnogi'r gwaith o weinyddu'r Bwrdd Taliadau Annibynnol (y sbardunau sydd wedi cynyddu llwyth gwaith y Bwrdd, a'i strategaeth ynghyd â'r rhaglen waith amlinellol y mae wedi cytuno arni ar gyfer y Chweched Senedd).  Gofynnodd y Comisiynwyr hefyd am i wybodaeth ychwanegol gael ei pharatoi ar eu cyfer am y defnydd o'r 'car ar gyfer pawb' a thrafodwyd annog defnyddio cerbyd trydan mewn cysylltiad â’r cerbyd hwnnw.

Cytunodd y Comisiwn ar y Memorandwm Esboniadol er mwyn cyflwyno Cyllideb Atodol i'w chynnwys yng nghynnig cyllideb cyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. Byddai hyn yn golygu cynnydd o £2.061 miliwn i’r Gyllideb a osodwyd ar gyfer 2022-23, gyda chynnydd o £0.325 miliwn o ganlyniad i hynny yn y gofyniad arian parod net. Ystyriodd y Comisiynwyr mai'r cam nesaf fyddai i'r Pwyllgor Cyllid graffu ar y Memorandwm Esboniadol.

Byddai'r newidiadau a nodir yn y Memorandwm Esboniadol yn ymwneud â:

-          chynnydd o £1.736 miliwn yn y gyllideb gyffredinol, i adlewyrchu'r safon newydd - Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16 – Prydlesi, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2022. Ni fydd hyn yn cynyddu'r gofyniad arian parod net.

-          newidiadau i’r gyllideb a nodwyd ar gyfer Penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar Gyflogau a Lwfansau'r Aelodau. Nid yw newidiadau a gynigir i linellau'r gyllideb unigol yn arwain at unrhyw gynnydd cyffredinol;

-          cynnydd net o £150,000 yn y gyllideb gyffredinol a'r gofyniad arian parod net; yng ngoleuni'r costau i gefnogi'r gwaith o weinyddu’r Bwrdd Taliadau Annibynnol (cynnydd o £218,000) a Swyddfa'r Comisiynydd Safonau (gostyngiad o £68,000), (gyda thryloywder ychwanegol ar y costau hyn yn y gyllideb hon ac mewn cyllidebau a osodir yn y dyfodol);

-          cynnydd o £175,000 yn y gyllideb gyffredinol a'r gofyniad arian parod net, i adlewyrchu'r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.

Byddai'r Comisiynwyr yn cael briff ysgrifenedig yn ymwneud â chefnogi’r gwaith o weinyddu'r Bwrdd Taliadau Annibynnol, gyda gwybodaeth ychwanegol i'w chynnwys yn y llythyr y cytunir arno at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.


Cyfarfod: 31/01/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Llythyr i fynd i'r afael ag argymhellion y Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 18

Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Ymateb i’r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â’r Gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 21
  • Cyfyngedig 22
  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am hynt Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22 drwy'r broses graffu.

Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid a gwnaethant gymeradwyo'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2022-23 a osodwyd ar 10 Tachwedd.


Cyfarfod: 27/09/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb y Comisiwn 2022-23

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26
  • Cyfyngedig 27
  • Cyfyngedig 28
  • Cyfyngedig 29

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23, a adlewyrchodd y strategaeth y cytunwyd arni yng nghyfarfod y Comisiwn ar 12 Gorffennaf. 

Fe wnaethant ystyried blaenoriaethau o ran prosiectau ar gyfer 2022-23 a'u dull o fynd i’r afael â’r pwysau ychwanegol tebygol ar Gyllideb Ddrafft 2022-23, yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am gynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Cytunodd y Comisiynwyr i osod cyllideb ddrafft y Comisiwn o £62.942 miliwn, gan nodi y gallai cyhoeddiadau cyllideb y DU alw am ystyriaethau diweddarach ynghylch cyllideb atodol.

At hynny, nododd y Comisiwn ddatganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid, a’r llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.


Cyfarfod: 12/07/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Strategaeth Cyllideb Ddrafft 2022-23

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 32

Cofnodion:

Darparwyd cefndir a chyd-destun i Gomisiynwyr i lywio eu syniadau ynghylch strategaeth y gyllideb ac ystyried dulliau gweithredu mewn perthynas â'r gyllideb ar gyfer 2022-23.

Ar ôl myfyrio ar rinweddau cymharol y dewisiadau amgen a'r wybodaeth a ddarparwyd, gofynnodd y Comisiwn i waith gael ei wneud ar Opsiwn C. Roedd hyn er mwyn cymryd i ystyriaeth yr angen i ystyried y capasiti sydd ei angen i gyflawni mewn ffyrdd sy'n addas i anghenion yr Aelodau, er enghraifft parhau i weithio’n hybrid. Byddai Cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2022-23 yn cael ei chyflwyno i'r Comisiwn yn ei gyfarfod ym mis Medi cyn cael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog.

Trafododd y Comisiynwyr hefyd y prosiect ffenestri newydd, a fu’n destun adroddiad dichonoldeb a gynhaliwyd yn ystod 2020 i gael cyngor arbenigol i lywio penderfyniad i’r dyfodol ar oblygiadau'r gyllideb, yr amseru a'r gwaith sydd ei angen i roi ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel yn raddol.

Trafododd y Comisiynwyr yr angen, yng nghyd-destun gofynion cyffredinol llety yn y dyfodol a chytunwyd y dylid parhau’r trafodaethau yn ôl amserlen a fyddai'n caniatáu i'r materion hyn gael eu hystyried yn gyfochrog.