Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amgylchedd 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd

NNDM7817 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd sy'n ymwneud â deunydd untro, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Hydref 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.13

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM7817 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd sy'n ymwneud â deunydd untro, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Hydref 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

11

53

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil yr Amgylchedd

LJC(6)-11-21- Papur 19 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil yr Amgylchedd

LJC(6)-11-21- Papur 20 - Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, 28 Hydref 2021 [Saesneg yn unig]

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd. Nododd y Pwyllgor hefyd y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a bwriad y Gweinidog i gyflwyno cynnig i'w drafod ar 2 Tachwedd 2021.

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bil yr Amgylchedd

LJC(6)-11-21 - Papur 12 - Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i’r Gweinidog Materion Gwledig, y Gogledd a’r Trefnydd, 25 Hydref 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 


Cyfarfod: 28/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 13

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes gasgliadau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ei adroddiad ar ei waith craffu ar Femorandwm Bil yr Amgylchedd a gofynnodd i swyddogion ddarparu cyngor pellach.

 

 


Cyfarfod: 14/09/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amgylchedd - Gohiriwyd tan 28 Medi

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon tan 28 Medi


Cyfarfod: 14/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amgylchedd:

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 18

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad i gyflwyno adroddiad ar 23 Medi 2021.

 

 


Cyfarfod: 06/07/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Llythyrau gan Gadeiryddion Pwyllgorau ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 21
  • Cyfyngedig 22

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i fynd i gyfarfod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 12 Gorffennaf, ac wedi cael cais i fynd i gyfarfod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith cyn toriad yr haf, ac y bydd yn ymateb maes o law.

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y ffaith bod y llywodraeth wedi ymestyn yr amser ar gyfer y ddadl ar y Memorandwm ar 14 Medi i 45 munud. Bydd y Gweinidog yn ymateb i argymhellion y pwyllgorau yn ystod y ddadl.

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd fod y llywodraeth ar hyn o bryd yn aros am ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i gais i aildrefnu Trydydd Darlleniad yr Arglwyddi er mwyn rhoi mwy o amser i gynnal gwaith craffu yn y Senedd.