Cyfarfodydd

P-06-1168 Ystyriwch ail-wneud y flwyddyn academaidd gyfredol hon ar gyfer myfyrwyr ar draws cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1168 Ystyriwch ail-wneud y flwyddyn academaidd gyfredol hon ar gyfer myfyrwyr ar draws Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n llywodraethwr ysgol.

 

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n llywodraethwr ysgol.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynigion yn flaenorol i ddisgyblion ailadrodd y flwyddyn ysgol a'r cynllun adfer amgen y mae wedi'i gyhoeddi cytunodd y Pwyllgor i:

·         ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y materion a godir yn y ddeiseb; ac

·         unwaith y daw ymateb gan y Gweinidog, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.