Cyfarfodydd
NDM7744 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Busnesau bach a thwristiaeth
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/07/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 07/07/2021 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 07/07/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Busnesau bach a thwristiaeth
NDM7744 Hefin David (Caerffili)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r rôl
sylweddol y mae busnesau bach yn ei chwarae o ran cynnal economïau lleol drwy
gydol pandemig y coronafeirws drwy addasu i amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r
blaen.
2. Yn nodi pwysigrwydd
busnesau bach lleol, yn enwedig rhai yn y sector twristiaeth a'r sectorau
cysylltiedig, wrth i ni adfer o'r pandemig a dechrau ail-adeiladu ein
cymunedau a'n heconomïau lleol.
3. Yn nodi ymhellach
yr anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a
mwynhau ei hatyniadau a'i safleoedd o harddwch naturiol eithriadol niferus.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a
thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y
flwyddyn.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r un rhanddeiliaid er mwyn integreiddio'r ddau
sector i'w strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19 yn nhymor y
chweched Senedd er mwyn sicrhau bod y ddau yn cael eu cefnogi'n ddigonol a bod
ganddynt y gwydnwch angenrheidiol i gynnal unrhyw ergydion yn y dyfodol.
Cyd-gyflwynwyr
John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd)
Delyth Jewell (Dwyrain De
Cymru)
Cefnogwyr
Carolyn Thomas (Gogledd
Cymru)
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Peredur Owen Griffiths
(Dwyrain De Cymru)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.48
NDM7744 Hefin David (Caerffili)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r rôl
sylweddol y mae busnesau bach yn ei chwarae o ran cynnal economïau lleol drwy
gydol pandemig y coronafeirws drwy addasu i amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r
blaen.
2. Yn nodi pwysigrwydd
busnesau bach lleol, yn enwedig rhai yn y sector twristiaeth a'r sectorau
cysylltiedig, wrth i ni adfer o'r pandemig a dechrau ail-adeiladu ein
cymunedau a'n heconomïau lleol.
3. Yn nodi ymhellach yr
anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a
mwynhau ei hatyniadau a'i safleoedd o harddwch naturiol eithriadol niferus.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a thwristiaeth i
hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y flwyddyn.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda'r un rhanddeiliaid er mwyn integreiddio'r ddau sector i'w
strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19 yn nhymor y chweched Senedd
er mwyn sicrhau bod y ddau yn cael eu cefnogi'n ddigonol a bod ganddynt y
gwydnwch angenrheidiol i gynnal unrhyw ergydion yn y dyfodol.
Cyd-gyflwynwyr
John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cefnogwyr
Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru)
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Peredur
Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Sarah
Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 16.36 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.