Cyfarfodydd

Blaenraglen waith - Y Pwyllgor Deisebau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

Trafod y flaenraglen waith

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith

 


Cyfarfod: 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

Cynllun Gwaith Hydref 2023

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.

 


Cyfarfod: 06/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 Data Deisebau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd Daf ap Moris drosolwg o’r gwaith dadansoddi ar ddata deisebau.

 


Cyfarfod: 09/01/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.

 

 


Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 7)

7 Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.

 


Cyfarfod: 21/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 Deiseb y Flwyddyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y gwaith a wnaed yn ddiweddar ar Ddeiseb y flwyddyn.

 

 


Cyfarfod: 17/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

Blaenraglen waith

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith.

 


Cyfarfod: 11/07/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 8)

8 Dulliau o weithio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Myfyriodd y Pwyllgor ar ei waith eleni a thrafododd y camau nesaf ar gyfer tymor yr hydref.

 


Cyfarfod: 24/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 Adolygiad o amserlen y Pwyllgor a chylchoedd gwaith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i amserlen bresennol y Pwyllgor a thynnwyd sylw at y ffaith eu bod yn ffafrio symud ymlaen.  

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

Cynllunio Llwyth Gwaith y Pwyllgor yn y Dyfodol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd i wahodd tystion i roi tystiolaeth mewn perthynas â deiseb P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol ‘Ymadawyr Gofal a Mwy’ sy'n cynnwys amrywiaeth o bobl. Bydd sesiynau tystiolaeth yn cael eu cynnal ar 15 a 29 Tachwedd.

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

Trafodaeth bellach ar y trothwy llofnodion

Cofnodion:

Ar ôl ystyried yr holl ddata, ac argymhelliad y pwyllgor blaenorol, cytunodd yr Aelodau fod cyfiawnhad dros newid yn y trothwy llofnodion i ddeiseb gael ei thrafod gan y Pwyllgor, ac y dylid newid y trothwy i 250 o lofnodion. Cytunodd yr Aelodau hefyd i newid y trothwy erbyn dechrau'r flwyddyn newydd ym mis Ionawr 2022. Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes yn argymell y newid perthnasol i Reol Sefydlog 23.4(i)

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

Sesiwn Cynllunio Strategol / Cyflwyniad data deisebau

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gyflwynwyd a chytunodd i ddychwelyd at y mater, gan ofyn i gael papur ynghylch y mater hwn sy’n edrych yn fanylach ar oblygiadau newid y trothwy llofnodion erbyn y cyfarfod nesaf.

 

 

 


Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

Blaenraglen waith

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sut roedd am fwrw ymlaen â’r flaenraglen waith a chytunodd y byddai’n gwneud cais i gwrdd wyneb yn wyneb yn ei gyfarfod nesaf ar 4 Hydref.  

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ailystyried y trothwy llofnodion yn ei gyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

Blaenraglen waith

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor sut yr oedd am weithredu o ran ei Flaenraglen Waith, a gofynnodd i'r tîm clercio baratoi papur ffurfiol yn nodi opsiynau ar gyfer cynnal rhagor o waith manwl ar amrywiaeth o ddeisebau yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ganiatâd i symud ei slot bore Llun i brynhawn Llun, gan ei fod yn rhagweld y byddai cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ailddechrau.


Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 Cylch gwaith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau gylch gwaith a chyfrifoldebau'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 8)

8 Dull gweithredu strategol o ran cylch gwaith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sut roedd am ymdrin â’i ddull gweithredu a chytunodd ar y canlynol:

·         canolbwyntio ar faterion lefel uchel lle y gallai'r Pwyllgor gynorthwyo i lunio polisi'r Llywodraeth; ac

·         ymgymryd â gwaith allgymorth ac ymgysylltu pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

 


Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 7)

7 Gweithdrefnau pwyllgorau a'u ffyrdd o weithio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei weithdrefnau a'i ffyrdd o weithio a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i'w hysbysu o'i benderfyniad i gadw’r trothwyon presennol:

·         gofyn am 50 o lofnodion er mwyn i'r Pwyllgor ystyried y ddeiseb; a

·         gofyn am 10,000 o lofnodion cyn i'r Pwyllgor ystyried gwneud cais am ddadl ar y ddeiseb yn y Senedd.

 

Cytunodd y Pwyllgor i adolygu'r trothwyon hyn maes o law er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n briodol.

 


Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 Adroddiad gwaddol y pwyllgor a oedd yn rhagflaenu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.