Cyfarfodydd

Cyfarfodydd preifat - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/11/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Adroddiad Cydymffurfio Grwpiau Trawsbleidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnig i’r Llywydd y dylai gymryd drosodd y cyfrifoldeb am anfon llythyrau atgoffa at y Cadeiryddion ynghylch y rheolau ar gyfer gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeiryddion y Grwpiau Trawsbleidiol nad ymddengys eu bod wedi bod yn weithredol o gwbl dros y flwyddyn ddiwethaf i gadarnhau eu sefyllfa a gofyn am waith papur sy’n weddill.

 

2.3. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeiryddion grwpiau a oedd wedi’u cofrestru’n hwyr, i’w hatgoffa o’u dyletswyddau fel Cadeiryddion ac i ofyn am waith papur sy’n weddill.

 

2.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeiryddion grwpiau nad oeddent wedi cydymffurfio ers dwy flynedd i roi gwybod iddynt y gallant gael eu datgofrestru os na fyddant yn cydymffurfio am drydedd flwyddyn.

 

2.5 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr holl Aelodau yn eu hatgoffa o’r rheolau ar weithredu Grwpiau Trawsbleidiol yn ogystal â’u cyfrifoldebau fel Cadeiryddion y Grwpiau.

 


Cyfarfod: 06/11/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Nodyn cyngor i’r Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y nodyn cyngor a chytunodd i ystyried ffyrdd y gellid symleiddio’r broses, ac i ysgrifennu yn ôl at yr aelod o’r cyhoedd.

 


Cyfarfod: 16/10/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Adolygiad o’r Polisi Urddas a Pharch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y cynllun gwaith a chytunodd i gynnal ymgynghoriad ynghylch urddas a pharch.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylai’r Comisiwn gwblhau arolwg bwrdd gwaith o ddarpariaethau eraill.


Cyfarfod: 10/07/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Adolygiad o’r Polisi Urddas a Pharch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd i ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd ac ymgynghori â defnyddwyr rheolaidd yr adeilad ynglŷn â’u profiadau.

 


Cyfarfod: 12/06/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 4)

Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Safonau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad blynyddol drafft y Comisiynydd Safonau ag ef.

 


Cyfarfod: 16/01/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

 


Cyfarfod: 12/12/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 4)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 


Cyfarfod: 28/11/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 5)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 6 a 7.

Cofnodion:

5.1 Cafodd y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.42 ei gytuno.

 


Cyfarfod: 26/09/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Cofrestru manylion aelodau o'r teulu o dan Reolau Sefydlog 2 a 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ymgynghori â'r Aelod dan sylw a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 28/06/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Ethol Cadeirydd dros dro yn unol ag Adran 10.2 o'r weithdrefn gwyno

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylid ethol John Griffiths AS yn Gadeirydd dros dro yn unol â pharagraff 10.2 o'r weithdrefn gwyno.

 


Cyfarfod: 06/06/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Cofrestru manylion aelodau o'r teulu o dan Reolau Sefydlog 2 a 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weithredwr i gael rhagor o wybodaeth.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i drafod y mater hwn fel rhan o'i adolygiad o gofrestru buddiannau, yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 


Cyfarfod: 11/01/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2.)

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/09/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd

Cofnodion:

2.1 Trafododd aelodau’r Pwyllgor ailddrafft o'r weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod y weithdrefn ymhellach mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.


Cyfarfod: 13/07/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 4)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

4.1 Penderfynodd y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.