Cyfarfodydd
Gynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/02/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion Deddfwriaethol gan Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunwyd i
amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 11 Chwefror:
Sioned Williams
NNDM9024
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Hawliau Dynol (Cymru).
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwneud hawliau dynol rhyngwladol dethol yn rhan o
gyfraith Cymru fel eu bod yn rhwymol i Weinidogion ac awdurdodau cyhoeddus
Cymru wrth arfer swyddogaethau datganoledig a gellir eu gorfodi gan lys neu
dribiwnlys.
b) ei gwneud yn haws i bobl yng Nghymru ddeall a mynnu eu
hawliau, a darparu llwybrau cliriach i gael mynediad at gyfiawnder pan nad yw
eu hawliau yn cael eu cynnal gan gyrff cyhoeddus; ac
c) gwella monitro ac atebolrwydd, gan sicrhau y gellir
dal cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i gyfrif pan fyddant yn methu â
chynnal yr hawliau dynol hyn.
Cyfarfod: 21/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w
drafod ar 5 Tachwedd:
Rhys Ab
Owen
NNDM7843
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd
defnyddio plastig untro ar gynnyrch ffres ar gyfer ffrwythau a llysiau sydd
wedi cael eu profi i fod o ddim budd neu fod y budd yn ddibwys, o ran ymestyn
oes silff pan fyddant wedi'u pecynnu mewn plastig.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) lleihau faint o blastig untro diangen sydd
ar draws cadwyni cyflenwi Cymru, gan ddiogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl; a
b) lleihau gwastraff bwyd a lleihau'r baich
ar gyllid cartrefi drwy ganiatáu i ddefnyddwyr brynu dim ond yr hyn sydd ei
angen arnynt yn seiliedig ar bwysau.
3. Yn nodi y byddai'r Bil yn berthnasol dim
ond wrth brynu ffrwythau a llysiau mewn symiau is na 1.5kg.
Cyfarfod: 23/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i
amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 1 Hydref:
Mick Antoniw
NNDM8981
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar dipio anghyfreithlon i
wneud i lygrwyr dalu am gostau clirio ac i gryfhau mesurau ataliol.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai cryfhau
deddfwriaeth a diwygio'r gyfraith ar dipio anghyfreithlon o ran:
a) ei gwneud yn ofynnol i droseddwyr dalu costau llawn
ymchwiliadau a chlirio a wneir gan yr awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru
neu unigolion preifat;
b) ei gwneud yn ofynnol i ynadon orchymyn atafaelu
cerbydau ym mhob achos o dipio anghyfreithlon profedig;
c) darparu hyfforddiant priodol i ynadon i wella
dealltwriaeth o effaith lawn tipio anghyfreithlon ar gymunedau, yr amgylchedd
ac iechyd y cyhoedd; a
d) gosod gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i
ymchwilio i bob achos o dipio anghyfreithlon.
Cyfarfod: 24/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y
cynigion arfaethedig i gynnal dadl ar 2 Gorffennaf 2025 a chytunwyd i
amserlennu’r cynnig canlynol:
Hefin David
AS
NNDM8940
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil ar Gyfraith Owain, sydd wedi'i enwi ar ôl Owain James o
Gaerffili, a fu farw yn 2024 o diwmor ar yr ymennydd.
2. Yn nodi
mai pwrpas y Bil hwn fyddai sicrhau:
a) bod yn
rhaid cael cydsyniad gan y claf, neu'r perthynas agosaf lle bo'n briodol, i
drin a storio meinwe tiwmor, a hynny cyn y llawdriniaeth;
i) dylai'r
broses gydsyniad gynnwys esboniad ysgrifenedig clir o sut y bydd meinwe a
dorrwyd allan yn cael ei storio ar ôl llawdriniaeth, ac archwiliad patholegol a
histolegol; ac
ii) dylai'r
cydsyniad amlinellu y bydd yr holl feinwe sy'n weddill yn eiddo i'r claf, a dim
ond caniatâd gan y claf, neu'r perthynas agosaf lle bo'n briodol, all
benderfynu ar ei ddefnydd;
b) y bydd y
swm lleiaf posibl o feinwe tiwmor a dorrwyd allan yn cael ei ddefnyddio ar
gyfer dadansoddiad patholegol a histolegol, gan sicrhau cywirdeb
diagnostig;
c) bod yn
rhaid i'r meinwe tiwmor a dorrwyd allan sy'n weddill gael ei rhewi'n gyflym neu
ei rhewi'n ffres, ar -80 gradd canradd, heb unrhyw gemegau na chadwolion (gan
gynnwys halwynog neu baraffin). Dylid storio meinwe mewn sawl cyfnifer
(aliquot), lle bo modd, er mwyn gwneud y defnydd mwyaf posibl o feinwe yn y
dyfodol at wahanol ddibenion; a
d) pan fydd
sefyllfaoedd brys yn codi ac nad yw cydsyniad yn bosibl cyn llawdriniaeth,
rhaid dilyn yr un protocol ar gyfer storio meinwe a rhaid cwblhau'r broses o
gael cydsyniad o fewn 48 awr.
Cyfarfod: 18/03/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i amserlennu’r cynigion a ganlyn:
26 Mawrth -
Mick Antoniw
NNDM8799
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil ar fynd i'r afael â thaflu sbwriel a thipio anghyfreithlon
yng Nghymru.
2. Yn nodi
mai diben y Bil fyddai:
a) cryfhau
a diwygio'r gyfraith ar dipio anghyfreithlon yng Nghymru mewn perthynas â’r
canlynol:
i) cosbau
ariannol ac anariannol (megis atafaelu trwydded yrru neu gerbyd);
ii) y cap
ar hysbysiadau cosb benodedig;
iii)
gweithgarwch gorfodi; a
iv) safoni
methodolegau cofnodi ac adrodd data awdurdodau lleol.
b) cryfhau
a diwygio'r gyfraith ar daflu sbwriel yng Nghymru mewn perthynas â’r
canlynol:
i) nodi
taflu sbwriel fel ymddygiad gwrthgymdeithasol;
ii) cosbau
ariannol ac anariannol (megis darparu 'cyrsiau ymwybyddiaeth sbwriel' i
droseddwyr); a
iii) cyfrifoldebau lleihau sbwriel manwerthwyr a
chyflenwyr eraill.
c) cyflwyno
prosesau sy'n ei gwneud yn haws i aelwydydd gael gwared ar wastraff.
30 Ebrill - Mabon ap Gwynfor
NNDM8806
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil i ymgorffori yng nghyfraith Cymru lefelau staffio diogel
gofynnol ar gyfer deintyddion a gomisiynir gan y GIG.
2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai:
a) sefydlu
llinell sylfaen genedlaethol ofynnol ar gyfer staff deintyddiaeth ledled Cymru,
yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth o ran iechyd y geg;
b) cyflwyno
dyletswydd ar ymddiriedolaethau a byrddau iechyd lleol yng Nghymru i gyfrifo a
chymryd pob cam rhesymol i gynnal lefelau staffio deintyddiaeth a hysbysu
cleifion o'r lefel;
c) gosod
dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i wireddu’n raddol hawl
holl ddinasyddion Cymru i gael mynediad at wasanaethau deintyddiaeth a
gomisiynir gan y GIG;
d) gosod
dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatblygu cynllun gweithlu i gefnogi a
chynnal proffesiwn deintyddiaeth y GIG yng Nghymru; ac
e) gosod
dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi adroddiadau cynnydd blynyddol ar y
cynllun hwnnw, yn ogystal â datganiadau cysylltiedig yn y Senedd.
Cyfarfod: 28/01/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y
cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol
i’w drafod ar 5 Chwefror:
Sioned Williams AS
NNDM8724
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar
sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn
fyddai:
a) gwella'r cymorth sydd ar gael
gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a lleoliadau gofal iechyd ar gyfer
gofalwyr di-dâl, yn seiliedig ar yr hawliau a nodir yn Neddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
b) cadarnhau'r gwaith o gasglu a
monitro data ymgysylltu â gofalwyr di-dâl ar draws gwasanaethau statudol i
adrodd arnynt o bryd i'w gilydd;
c) sicrhau bod rhagor o ddata
gofalwyr di-dâl yn cael eu rhannu, lle bo hynny'n briodol, rhwng gwasanaethau
statudol i gefnogi gofalwyr wrth iddynt lywio drwy wasanaethau ac eirioli dros
y bobl y maent yn gofalu amdanynt; ac
ch) gosod dyletswydd ar Lywodraeth
Cymru ac awdurdodau lleol i gydnabod gofalwyr di-dâl fel grŵp blaenoriaeth
wrth ddylunio a darparu pob ymyriad polisi yn y dyfodol.
Cyfarfod: 12/11/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i
amserlennu:
20 Tachwedd
2024
Siân
Gwenllian
NNDM8712
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil ar ymgorffori’r Hawl i Dai Digonol, fel y nodir yn y
Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol
(ICESCR), yng nghyfraith Cymru.
2. Yn nodi
mai diben y Bil fyddai:
a)
sefydlu’r Hawl i Dai Digonol fel hawl sylfaenol yng nghyfraith Cymru, gan
sicrhau mynediad i dai saff, diogel a fforddiadwy i bawb;
b) gosod
dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i wireddu'n raddol yr
Hawl i Dai Digonol;
c) gofyn am
asesiadau rheolaidd o anghenion ac amodau tai, gyda thargedau wedi'u gosod i
leihau'r anghenion tai sydd heb eu diwallu a gwella amodau dros amser;
d) cryfhau
amddiffyniadau tenantiaid a chefnogi arferion rhentu teg i sicrhau
sefydlogrwydd tai; ac
e) sefydlu
mecanweithiau i unigolion geisio iawn os yw eu hawl i dai digonol yn cael ei
dorri neu heb ei fodloni.
8 Ionawr
2025
Carolyn
Thomas
NNDM8723
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil cipio anifeiliaid anwes.
2. Yn nodi
mai diben y Bil fyddai:
a) gwneud
cipio anifail anwes yn drosedd benodol yng Nghymru;
b) cydnabod nad gwrthrychau difywyd yw cathod a
chŵn ond bodau ymdeimladol sy'n gallu profi trallod a thrawma emosiynol
arall;
c) cydnabod
y trallod sylweddol ac unigryw a achosir i berchennog pan gaiff anifail anwes
ei ddwyn; a
d) dod â
deddfwriaeth Cymru yn gyfartal â deddfwriaeth yn Lloegr.
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 08/10/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Gynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
Datganodd
Heledd Fychan fuddiant ar ôl cyflwyno un o'r cynigion arfaethedig i'w ddethol.
Trafododd
y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i
amserlennu’r cynnig canlynol ar 16 Hydref:
Heledd
Fychan
NNDM8687
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn
erbyn cymeradwyo datblygu chwareli yn agos at aneddiadau.
2.
Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a)
ei gwneud yn ofynnol i risgiau i'r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac i iechyd y
cyhoedd, mewn cysylltiad â safleoedd chwarelyddol arfaethedig gael eu hasesu
fel rhan o'r broses gynllunio;
b)
gosod parth clustogi gorfodol o 1,000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a'r
rhai presennol; ac
c)
darparu mai dim ond Gweinidog perthnasol Llywodraeth Cymru all wneud y
penderfyniad ar gais cynllunio ar gyfer datblygu chwarel, gydag ystyriaeth yn
cael ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Cyfarfod: 18/06/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r
cynnig canlynol i’w drafod ar 26 Mehefin:
Adam Price
NNDM8616
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil buddion ynni cymunedol.
2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai:
a) sicrhau
bod datblygiadau ynni adnewyddadwy o fudd uniongyrchol i gymunedau lleol, a bod
colli amwynder i gymunedau yn ystyriaeth allweddol wrth benderfynu a yw
prosiectau seilwaith ynni mawr yn mynd rhagddynt;
b) ei
gwneud yn ofynnol i elw o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy gael ei gadw yn yr
ardal leol;
c) gwneud
perchnogaeth leol yn elfen orfodol ym mhob datblygiad cynhyrchu ynni;
d) gwneud y
defnydd o dechnoleg adnewyddadwy yn orfodol yn yr holl adeiladau newydd,
datblygiadau sylweddol ac estyniadau; ac
e)
defnyddio'r holl opsiynau tir llwyd hyfyw cyn y gellir ystyried unrhyw safle
maes glas, yn enwedig os bydd yn effeithio ar gynefinoedd anghysbell ac
amrywiol a/neu fod mynediad a seilwaith yn gyfyngedig neu'n anfodol.
Cyfarfod: 14/05/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynnig arfaethedig ar gyfer
dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig ar 22 Mai:
Sioned Williams
NNDM8580
Cynnig bod y
Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil addysg wleidyddol.
2. Yn nodi mai diben y
Bil fyddai:
a) sicrhau bod pob
dysgwr mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru yn cael addysg benodol yn ymwneud â
gwleidyddiaeth a democratiaeth Cymru;
b) ei gwneud yn ofynnol
i bob ysgol a choleg sicrhau bod dysgwyr yn deall pwysigrwydd ymgysylltu
dinesig ym mhroses ddemocrataidd Cymru; ac
c) sicrhau bod pobl
ifanc 16 ac 17 oed yn teimlo'n fwy hyderus a gwybodus am etholiadau a phwrpas a
phroses bwrw eu pleidlais.
Cyfarfod: 16/04/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y
cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol
i’w drafod ar 24 Ebrill:
Janet
Finch-Saunders
NNDM8504
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil a fyddai’n gwneud darpariaethau ar gyfer targedau i
atgyfnerthu diogeledd bwyd yng Nghymru.
2. Yn nodi
mai diben y Bil fyddai creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i bennu targedau i
wella diogeledd bwyd yng Nghymru.
Cyfarfod: 05/03/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Cynigion
Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r
cynnig canlynol ar 12 Mawrth:
Delyth
Jewell
NNDM8460
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn
nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyfer mwy o ddiogelwch ar drafnidiaeth
gyhoeddus.
2. Yn
nodi mai diben y Bil fyddai:
a) cyflwyno
systemau ar gyfer monitro, adrodd ac uwchraddio goleuadau yn rheolaidd ar gyfer
yr holl wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys ar fwrdd cerbydau, mewn
arosfannau a gorsafoedd, ac ar strydoedd yn union o amgylch gorsafoedd trên a
safleoedd bysiau mawr;
b) adolygu
hyfforddiant a gynigir ar hyn o bryd ym maes diogelwch i'r rhai sy'n gweithio
yn y diwydiant trafnidiaeth, o'u rhan eu hunain ac eraill;
c) gwella
gweithdrefnau adrodd presennol a datblygu systemau mwy cyson a thryloyw ar
gyfer adrodd a chofnodi achosion o gam-drin sy'n effeithio ar bobl sy'n agored
i niwed ar drafnidiaeth gyhoeddus; a
d) asesu'r
angen am ddyletswydd statudol ar gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod
teithwyr yn cyrraedd pen eu taith, neu fan diogel, ar ôl iddi dywyllu.
Cyfarfod: 23/01/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y
cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol
ar 31 Ionawr:
Mabon ap Gwynfor
NNDM8434
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i
sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG, ar ffurf corff
rheoleiddio.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sefydlu corff rheoleiddio
proffesiynol ar gyfer GIG Cymru i ddiffinio'r safonau proffesiynol a ddisgwylir
gan reolwyr GIG Cymru a bod yn lle i droi ar gyfer y rhai sy'n teimlo nad yw'r
safonau hynny wedi cael eu bodloni gan unrhyw reolwr unigol GIG Cymru, a byddai
ganddo'r pŵer i rybuddio, cosbi neu dynnu unrhyw reolwr GIG Cymru oddi ar
ei gofrestr a gynhelir;
b) diffinio beth yw rheolwr GIG
Cymru a chynnal cofrestr o reolwyr GIG Cymru; ac
c) ei gwneud yn ofynnol i holl
reolwyr y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r corff rheoleiddio proffesiynol.
Cyfarfod: 05/12/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i
amserlennu’r cynnig canlynol ar 13 Rhagfyr 2023:
Jack
Sargeant
NNDM8419
Cynnig
bod y Senedd:
1. Yn
nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion yng Nghymru ymhellach.
2. Yn
nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau
cyhoeddus i ddefnyddio casglwyr dyledion sydd wedi cofrestru i god ymddygiad
sy'n amddiffyn pobl fregus mewn argyfwng costau byw yn unig;
b)
cyflwyno cod ymddygiad Cymru gyfan ar gyfer yr holl asiantau casglu dyledion
sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru; ac
c)
grymuso awdurdodau safonau masnach lleol ymhellach i weithredu yn erbyn
asiantau sy'n camarwain preswylwyr ynghylch eu pwerau a hawliau preswylwyr.
A'r
cynnig canlynol ar gyfer 17 Ionawr 2024:
Delyth
Jewell
NNDM8370
Cynnig bod y Senedd:
1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) diwygio Deddf Cwricwlwm ac Asesu
(Cymru) 2021 i sicrhau bod y cwricwlwm ysgol yn cynnwys dealltwriaeth o
ddifrifoldeb a brys yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol fel cysyniad
allweddol ar draws pob maes dysgu a phrofiad;
b) sicrhau bod y cwricwlwm yn
adlewyrchu brys ac anghenraid mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diogelu'r
amgylchedd ecolegol;
c) sicrhau nad yw addysgu o'r fath
wedi'i gyfyngu i bynciau traddodiadol sy'n cwmpasu'r maes hwn, ond wedi'i
wreiddio ar draws pob maes dysgu a phrofiad;
d) cydnabod pwysigrwydd dysgu
isganfyddol a hyrwyddo amgylchedd cynaliadwy lle y gall dysgu ddigwydd; ac
e) dechrau
mynd i'r afael â phryder hinsawdd ymhlith plant a phobl ifanc.
Cyfarfod: 03/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i
amserlennu’r cynnig canlynol ar 11 Hydref:
Peredur
Owen Griffiths
NNDM8368
Cynnig
bod y Senedd:
1. Yn
nodi cynnig ar gyfer Bil i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.
2. Yn
nodi mai diben y Bil fyddai:
a)
hyrwyddo diogelwch cymunedol yn dilyn nifer cynyddol o ymosodiadau difrifol gan
gŵn ledled Cymru gan gynnwys rhai marwolaethau trasig;
b)
cyflwyno canllawiau a rheoliadau i unrhyw un sy'n dymuno bod yn berchen ar
fridiau cŵn penodol, lle mae'n rhaid i berchnogion gyflawni meini prawf
penodol i fod yn berchen ar gi a allai fod yn beryglus;
c)
ymgynghori â rhanddeiliaid i sefydlu diffiniad o gi a allai fod yn beryglus;
d)
gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu partneriaethau i weinyddu'r
rheoliadau a chyflawni dull gweithredu cyson ar draws Cymru; ac
e)
hyrwyddo mentrau lleol a chenedlaethol gyda'r nod o wella lles anifeiliaid,
gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd ac addysgu'r cyhoedd ynghylch perchnogaeth
gyfrifol ar gŵn.
Cytunodd
y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 15 Tachwedd:
Jenny
Rathbone
NNDM8366
Cynnig
bod y Senedd:
1. Yn
nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n atal gwerthu e-sigaréts untro.
2. Yn
nodi mai diben y Bil fyddai:
(a)
atal e-sigaréts untro rhag cael eu gwerthu;
b)
cyflawni cyfrifoldebau byd-eang Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol;
c)
mynd i'r afael â'r ffaith bod e-sigaréts untro yn berygl i iechyd y cyhoedd;
d)
diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag problemau iechyd gan gynnwys niwed i’r
ysgyfaint; ac
e) rhoi’r gorau i ddefnyddio lithiwm mewn
cynhyrchion untro.
Cyfarfod: 13/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig a chytunwyd i amserlennu’r cynnig
canlynol ar gyfer dadl i’w drafod ar 21 Mehefin:
Adam
Price
NNDM8293
Cynnig
bod y Senedd:
1. Yn
nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio.
2. Yn
nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a)
ceisio efelychu llwyddiant democratiaethau eraill sydd wedi cyflwyno dyletswydd
ddinesig i bleidleisio o ran cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau a
thrwy hynny wella lefel yr ymgysylltiad a'r cynrychioldeb ar draws pob oedran,
dosbarth a chymuned;
b)
cyflwyno dyletswydd ddinesig ar bawb sy'n gymwys i bleidleisio i gymryd rhan yn
etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyngor sir;
c)
caniatáu i'r rhai sy'n dymuno nodi eu hanfodlonrwydd gydag ymgeisydd, plaid neu
wleidyddiaeth yn ehangach i wneud hynny drwy opsiwn o ymatal yn gadarnhaol ar y
papur pleidleisio;
d)
caniatáu cyflwyno cosb briodol am beidio â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth
ddinesig i bleidleisio neu ymatal yn gadarnhaol, gydag eithriadau cyfreithlon;
ac
e)
darparu ar gyfer cyflwyno cyfnod peilot ar gyfer cyflwyno'r ddyletswydd ar sail
oedran benodol.
Cyfarfod: 09/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor Busnes y cynnig arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i’w amserlennu
i’w drafod ar 17 Mai:
Janet Finch-Saunders
NNDM8230
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i
sicrhau bod datblygwyr adeiladau uchel iawn yn gyfrifol am faterion diogelwch.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn
fyddai:
a) creu dyletswydd ar ddatblygwyr i
ad-dalu lesddeiliaid am gostau rhesymol a gronnwyd o ganlyniad i faterion diogelwch
adeiladau; a
b) gwahardd unrhyw ddatblygwr sy’n
gwrthod cyweirio’r diffygion diogelwch tân ar adeiladau a ddatblygwyd ganddynt
rhag cael caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yng Nghymru.
Cyfarfod: 21/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a
chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 29 Mawrth:
Tom Giffard
NNDM8232
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig i greu Bil twristiaeth Cymru.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai:
a) dirymu Gorchymyn Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo
Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Bwrdd) 2005;
b) creu bwrdd twristiaeth newydd i Gymru;
c) trosglwyddo swyddogaethau Croeso Cymru a grymoedd
Llywodraeth Cymru cysylltiedig i'r bwrdd newydd, gan gynnwys, ond heb fod yn
gyfyngedig i:
i) annog pobl i ymweld â Chymru a phobl sy'n byw yng
Nghymru a'r Deyrnas Unedig i fynd ar eu gwyliau yno;
ii) annog darparu a gwella mwynderau a chyfleusterau
twristiaeth yng Nghymru;
iii) hyrwyddo cyhoeddusrwydd;
iv) darparu gwasanaethau cynghori a gwybodaeth; a
v) sefydlu pwyllgorau i'w cynghori ynghylch perfformiad
ei swyddogaethau.
Cyfarfod: 17/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig
canlynol i’w drafod ar 25 Ionawr:
Rhun ap
Iorwerth
NNDM8155
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi cynnig
am Fil ar leihau ôl-troed carbon digidol
2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai:
a) ymateb
i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel
rhan o’r ymdrech i gyrraedd net sero, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg
platfformau digidol;
b) cynnwys
strategaeth i ymdrin â data sy’n cael ei greu, eu gadw a’i brosesu mewn ffordd
fwy effeithlon o ran defnydd ynni;
c) gosod
targedau ar gyfer sicrhau bod canolfannau data yn rhedeg yn y modd mwyaf
effeithlon, yn cynnwys drwy ddefnyddio ffynhonnellau ynni adnewyddadwy, a thrwy
hynny gefnogi datblygu sector data gwyrdd yng Nghymru;
d) sicrhau
bod cynaliadwyedd yn sail i bob penderfyniad a wneir wrth ymdrin â data gan
gyrff cyhoeddus;
e) annog
arloesi yn ddigidol i helpu i dad-garboneiddio ac i gyrraedd amcanion net sero
cenedlaethol.
Cyfarfod: 29/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 59
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig
canlynol i’w drafod ar 7 Rhagfyr:
NNDM8093
Mark
Isherwood
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
cynnig am Fil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion
Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL.
2. Yn nodi
mai pwrpas y Bil fyddai:
a) cael
gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg,
iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle;
b) cryfhau
saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y modd
y maent yn ymwneud â BSL;
c) gweithio
tuag at sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai
ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg;
d) sicrhau
bod gan gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu
bod yn diwallu eu hanghenion;
e) sefydlu
Comisiynydd BSL a fydd yn:
(i) yn
llunio safonau BSL;.
(ii)
sefydlu panel cynghori BSL;
(iii)
llunio adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn
y cyfnod hwnnw;
(iv)
darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu
priod barthau;
f) sefydlu
gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion;
e) ei
gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd o ran hyrwyddo a
hwyluso BSL drwy eu cylch cofnodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
2015;
h) rhoi
dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol BSL
sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i hyrwyddo'r
defnydd o BSL.
Cyfarfod: 18/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 62
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ddydd Mercher 26 Hydref 2022:
NNDM8108 Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil
defnyddio budd-daliadau.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn
fyddai:
a) sicrhau bod mwy o arian yn dod i
bocedi pobl Cymru drwy gynyddu'r defnydd o daliadau cymorth Cymreig a thaliadau
cymorth awdurdodau lleol;
b) gosod dyletswydd ar bob
sefydliad sector cyhoeddus i hyrwyddo i'r eithaf y defnydd o fudd-daliadau
Cymreig a budd-daliadau awdurdodau lleol;
c) ei gwneud yn ofynnol i gyrff
cyhoeddus symleiddio a sicrhau cysondeb drwy Gymru o ran y dull o ymgeisio am
fudd-daliadau o'r fath.
Cyfarfod: 28/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 65
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol
i’w drafod ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022:
NNDM8038 Luke Fletcher
NNDM8038
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd cymalau 'dim
anifeiliaid anwes' mewn llety rhent.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) cyflwyno cytundeb tenantiaeth safonol tebyg i gytundeb
tenantiaeth enghreifftiol Senedd y DU a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021;
b) cynnig cyfres o fesurau a fyddai'n sicrhau nad yw
perchnogion anifeiliaid anwes cyfrifol yn cael eu trin yn annheg o ganlyniad
i'r math o lety y maent yn byw ynddo;
c) caniatáu mai'r sefyllfa ddiofyn gyfreithiol yw
caniatáu anifeiliaid anwes mewn tai cymdeithasol a'r sector rhentu preifat, oni
bai bod rheswm y gellir ei gyfiawnhau dros beidio â gwneud hynny;
d) ymestyn caniatáu anifeiliaid anwes mewn llochesi a
llety i bobl ddigartref.
Cyfarfod: 01/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i amserlennu’r cynigion canlynol i’w trafod:
Dydd
Mercher 9 Chwefror 2022:
NNDM7831
Mabon ap Gwynfor
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil ar reolaethau rhent.
2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai:
a) helpu i
fynd i'r afael â rhai o effeithiau mwy difrifol
argyfwng
tai Cymru, sy'n effeithio ar dros filiwn o bobl ledled y wlad;
b) lliniaru
cynnydd sylweddol mewn rhent yn y dyfodol, fel y cynnydd a welwyd yn y sector
rhentu dros y 12 mis diwethaf;
c) cyflwyno
system sy'n cyfyngu ar renti a chynnydd mewn rhent i lefelau fforddiadwy a
ffactorau lleol, gan gau'r bwlch rhwng twf cyflogau a chostau byw.
Dydd
Mercher 2 Mawrth 2022:
NNDM7833
Alun Davies
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil i leihau effaith andwyol gorlifoedd stormydd.
2. Yn nodi
mai diben y Bil fyddai:
a) gosod
dyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n
bennaf yng Nghymru i sicrhau gostyngiad cynyddol yn effaith andwyol
gollyngiadau o orlifoedd stormydd yr ymgymerwr;
b) lleihau
effeithiau andwyol gollyngiadau carthion ar
yr
amgylchedd ac ar iechyd y cyhoedd;
c) ei
gwneud yn bosibl i'r ddyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth gael ei gorfodi
gan Weinidogion Cymru neu gan yr Awdurdod gyda chydsyniad awdurdodiad
cyffredinol a roddir gan Weinidogion
Cymru, neu'n unol â hynny.
Dydd
Mercher 16 Mawrth 2022:
NNDM7896
Janet Finch-Saunders
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil ar gynllunio morol yng Nghymru.
2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwneud
darpariaethau ar gyfer polisïau a fyddai'n helpu i lywio lleoliad datblygiadau
i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o
safbwynt ecolegol, lleihau'r effeithiau cronnol ar gynefinoedd a rhywogaethau
sy'n agored i niwed, a rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr;
b) creu
dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o greu cynllun datblygu morol
cenedlaethol, a'i adolygu o leiaf unwaith ym mhob Senedd;
c) sefydlu
meysydd adnoddau strategol ar gyfer ynni morol;
d) cyhoeddi
strategaeth ar gyfer gwrthdroi dirywiad adar môr;
e) ei
gwneud yn ofynnol i ffermydd gwynt ar y môr gynnwys adfer cynefinoedd gwely'r
môr; strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr cynaliadwy o fewn
ardal y
fferm wynt a mesurau gwella amgylcheddol.
Cyfarfod: 16/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 71
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i amserlennu’r cynnig a ganlyn i’w drafod ar 24 Tachwedd:
NNDM7828
Rhys ab
Owen
Peter Fox
Mike Hedges
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil i sicrhau diogelwch cladin ar adeiladau yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau diogelwch preswylwyr drwy
sicrhau bod cladin diogel ar gael ar adeiladau.
Cyfarfod: 12/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau Dewis cynnig ar gyfer dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 74
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 20 Hydref:
NDM7722 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil perchnogaeth gan weithwyr ar hyrwyddo pryniant a
pherchnogaeth gan weithwyr.
2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai:
a) deddfu
ar gyfer cyfraith Marcora i Gymru i ddarparu'r fframwaith cyfreithiol, y
cymorth ariannol a'r cyngor ar gyfer pryniant gan weithwyr;
b) rhoi dyletswydd statudol ar waith i ddyblu
maint yr economi gydweithredol erbyn 2026 ac i fynd ati i hyrwyddo perchnogaeth
a phryniant gan weithwyr;
c) rhoi
cymorth a chyngor ariannol i weithwyr brynu busnes cyfan neu ran o fusnes sy'n
wynebu cael ei gau i lawr neu ei leihau mewn maint ac i sefydlu cwmni
cydweithredol i weithwyr;
d) sicrhau
bod pob cwmni yng Nghymru sy'n cael arian cyhoeddus neu sy'n rhan o'r
bartneriaeth gymdeithasol a chadwyni caffael moesegol yn cytuno i egwyddorion
pryniant a pherchnogaeth gan weithwyr.
Cefnogwyr:
Joyce
Watson
Luke
Fletcher
Sarah
Murphy
Vikki
Howells
Cyfarfod: 22/06/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Cynigion Deddfwriaethol Aelodau - Dethol cynnig i’w drafod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 77
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 30 Mehefin:
NNDM7713 Gareth Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil a fyddai'n ymgorffori dull sy'n seiliedig ar hawliau wrth ddatblygu,
cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithio ar bobl hŷn yng
Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai:
a) gosod dyletswydd ar
Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar
gyfer Pobl Hŷn wrth wneud penderfyniadau a allai effeithio ar bobl
hŷn yng Nghymru;
b) ymestyn y
ddyletswydd sylw dyledus i awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau
cyhoeddus eraill yng Nghymru;
c) gosod dyletswydd ar
Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Egwyddorion y
Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn ymhlith pobl hŷn ac awdurdodau
cyhoeddus Cymru;
d) ei gwneud yn ofynnol
i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd Pobl Hŷn, pobl hŷn a
rhanddeiliaid perthnasol eraill cyn gwneud neu ddiwygio'r cynllun hawliau pobl
hŷn; ac
e) gosod dyletswydd ar
Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau cyhoeddus Cymru.
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar
gyfer Pobl Hŷn
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 14
Gorffennaf:
NNDM7723 Jane Dodds
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar reoleiddio, monitro a chomisiynu gofal preswyl i blant, gan
gynnwys plant y mae angen gofal iechyd meddwl cleifion mewnol arnynt, a
gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu neu niwroamrywiaeth arall yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai:
a) gwella'r broses o
gomisiynu a darparu lleoliadau gofal preswyl i blant yng Nghymru, gan gynnwys
cydgysylltu a darparu ar draws awdurdodau lleol i sicrhau bod lleoliadau addas
yn fwy digonol;
b) gwella'r broses o
reoleiddio a monitro gofal preswyl a lleoliadau maethu, gan gynnwys alinio â
gwasanaethau eraill fel addysg, tai a digartrefedd, ac iechyd;
c) dileu'r ddarpariaeth
ar gyfer darparwyr sy'n gwneud elw yn y sector gofal preswyl ar gyfer plant
sy'n derbyn gofal, yn ogystal â gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu a
niwroamrywiaeth.
Gofynnodd y
Pwyllgor Busnes am i ganllawiau pellach gael eu drafftio ynghylch sut i ddethol
Cynigion Deddfwriaethol Aelodau.