Cyfarfodydd
NDM7711 Dadl Plaid Cymru - Polisi tai
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
Dadl Plaid Cymru - Polisi tai
NDM7711 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i fynd i’r afael â’r argyfwng
tai.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ar ôl 'tai'
mewnosoder:
'gan gynnwys cymryd
camau i:
a) sicrhau bod eiddo
gwag yn cael ei ddefnyddio eto;
b) adfer yr hawl i
brynu yng Nghymru;
c) cael gwared ar y
dreth trafodiadau tir ar gyfer prynwyr tro cyntaf;
d) gwerthfawrogi'r
cyfraniad y mae landlordiaid cofrestredig cyfrifol yn ei wneud i ddarparu llety
addas i denantiaid; ac
e)
cyflwyno deddfwriaeth ar ddiogelwch adeiladau.'
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.56
NDM7711 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig
bod y Senedd:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i fynd i’r afael â’r argyfwng
tai.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.