Cyfarfodydd
NDM7712 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Chwaraeon
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Chwaraeon
NDM7712 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y twf
a'r diddordeb mewn timau chwaraeon Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
2. Yn credu y dylai
Llywodraeth Cymru adeiladu ar gyflawniadau chwaraeon diweddar Cymru drwy
weithio gyda Llywodraeth y DU i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru, gan
gydnabod manteision sylweddol digwyddiadau o'r fath i economi Cymru ac adfywio
cymunedau lleol.
3. Yn galw ymhellach
ar Lywodraeth Cymru i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ragoriaeth mewn
chwaraeon, a hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon i wella lles meddyliol a
chorfforol pobl drwy:
a) sefydlu cronfa ar
gyfer talent o Gymru ym maes chwaraeon i gefnogi athletwyr talentog o
Gymru i lwyddo ar lwyfan y byd;
b) creu cronfa bownsio
yn ôl ar gyfer chwaraeon cymunedol i helpu clybiau cymunedol i ailadeiladu yn
dilyn pandemig COVID-19;
c) gwella mynediad i
gyfleusterau chwaraeon gan gynnwys sefydlu rhwydwaith mwy o gaeau synthetig 3G
a 4G ledled Cymru;
d) cyflwyno rhwydwaith
o lysgenhadon chwaraeon o Gymru i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon
a gweithgareddau corfforol eraill;
e) galluogi pobl ifanc
yng Nghymru i gael mynediad am ddim i gampfeydd awdurdodau lleol a chanolfannau
hamdden.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:
a) hyrwyddo
llwyddiannau ym maes chwaraeon yng Nghymru, hyrwyddo creadigrwydd a gallu ein
pobl ifanc ym maes chwaraeon a galluogi ein diwydiant chwaraeon i gynnal ei enw
da ar y llwyfan byd-eang;
b) buddsoddi yn ein
cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf, hyrwyddo mynediad cyfartal at
chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a dawnus a chlybiau llawr gwlad;
c) buddsoddi mewn
cyfleusterau newydd fel caeau artiffisial 3G.
2. Yn cydnabod
hanes llwyddiannus Llywodraeth Cymru o ddenu digwyddiadau uchel eu proffil yn y
maes diwylliannol, busnes a chwaraeon i Gymru.
3. Yn ymuno â
Llywodraeth Cymru wrth ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed hŷn Cymru yng
ngemau eraill y Pencampwriaethau Ewropeaidd.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ym mhwynt 3(d), ar ôl
'eraill' ychwanegu 'yn enwedig ymhlith merched yn eu harddegau a grwpiau
heb gynrychiolaeth ddigonol;'
Gwelliant 3 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ym mhwynt 3, cynnwys
is-bwyntiau newydd:
'sicrhau bod
sefydliadau addysg ôl-16 yn darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden tra'n
annog mynychwyr i gymryd rhan;
annog darlledwyr
cyhoeddus i neilltuo canran uwch o amser darlledu i chwaraeon menywod;
gweithio gyda chlybiau
a sefydliadau i leihau ymddygiad homoffobig a rhywiaethol a bod yn
drawsgynhwysol;
ymchwilio i'r
potensial i gael pwll nofio maint Olympaidd i wasanaethu gogledd Cymru.'
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 14.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7712 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y twf a'r
diddordeb mewn timau chwaraeon Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
2. Yn credu y dylai Llywodraeth
Cymru adeiladu ar gyflawniadau chwaraeon diweddar Cymru drwy weithio gyda
Llywodraeth y DU i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru, gan gydnabod
manteision sylweddol digwyddiadau o'r fath i economi Cymru ac adfywio cymunedau
lleol.
3. Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ragoriaeth mewn chwaraeon, a
hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon i wella lles meddyliol a chorfforol pobl
drwy:
a) sefydlu cronfa ar gyfer
talent o Gymru ym maes chwaraeon i gefnogi athletwyr talentog o Gymru i
lwyddo ar lwyfan y byd;
b) creu cronfa bownsio yn ôl ar
gyfer chwaraeon cymunedol i helpu clybiau cymunedol i ailadeiladu yn dilyn
pandemig COVID-19;
c) gwella mynediad i
gyfleusterau chwaraeon gan gynnwys sefydlu rhwydwaith mwy o gaeau synthetig 3G
a 4G ledled Cymru;
d) cyflwyno rhwydwaith o
lysgenhadon chwaraeon o Gymru i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a
gweithgareddau corfforol eraill;
e) galluogi pobl ifanc yng
Nghymru i gael mynediad am ddim i gampfeydd awdurdodau lleol a chanolfannau
hamdden.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
40 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:
a) hyrwyddo llwyddiannau ym maes chwaraeon yng Nghymru,
hyrwyddo creadigrwydd a gallu ein pobl ifanc ym maes chwaraeon a galluogi ein
diwydiant chwaraeon i gynnal ei enw da ar y llwyfan byd-eang;
b) buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon o’r radd
flaenaf, hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a
dawnus a chlybiau llawr gwlad;
c) buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fel caeau
artiffisial 3G.
2. Yn cydnabod hanes llwyddiannus Llywodraeth Cymru
o ddenu digwyddiadau uchel eu proffil yn y maes diwylliannol, busnes a
chwaraeon i Gymru.
3. Yn ymuno â Llywodraeth Cymru wrth ddymuno pob
lwc i dîm pêl-droed hŷn Cymru yng ngemau eraill y Pencampwriaethau
Ewropeaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
15 |
12 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7712 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:
a) hyrwyddo llwyddiannau ym maes chwaraeon yng Nghymru,
hyrwyddo creadigrwydd a gallu ein pobl ifanc ym maes chwaraeon a galluogi ein
diwydiant chwaraeon i gynnal ei enw da ar y llwyfan byd-eang;
b) buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon o’r radd
flaenaf, hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a
dawnus a chlybiau llawr gwlad;
c) buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fel caeau
artiffisial 3G.
2. Yn cydnabod hanes llwyddiannus Llywodraeth Cymru
o ddenu digwyddiadau uchel eu proffil yn y maes diwylliannol, busnes a
chwaraeon i Gymru.
3. Yn ymuno â Llywodraeth Cymru wrth ddymuno pob
lwc i dîm pêl-droed hŷn Cymru yng ngemau eraill y Pencampwriaethau
Ewropeaidd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
14 |
0 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.48
cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y LLywydd.