Cyfarfodydd
NDM7708 Dadl: Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/01/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 19/01/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
- Trawsgrifiad ar gyfer 19/01/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
2 Llythyr gan Weinidog yr Economi
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 15/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl: Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU
NDM7708 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cytuno nad yw ymateb
Llywodraeth y DU i Gronfa Codi’r Gwastad a chyllid olynol yr UE yn ehangach yn
gwarantu na fydd Cymru yn derbyn yr un geiniog yn llai a’i fod yn ymosodiad
amlwg ar ddatganoli yng Nghymru.
2. Yn cytuno bod
peilot Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ar gyfer 2021-22 yn cynrychioli toriad
cyllid sylweddol i Gymru oherwydd byddai Llywodraeth Cymru wedi derbyn o leiaf
£375m y flwyddyn ar ffurf cronfeydd strwythurol yr UE.
3. Yn nodi bod y
toriad hwn yn y cyllid sydd ar gael yn fygythiad i swyddi a gwasanaethau yng
Nghymru.
4. Yn rhannu’r
pryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch lefel y cyllid
sydd ar gael a’r broses ar gyfer cyflawni a fynegwyd yn y dystiolaeth i'r
Pwyllgor Materion Cymreig mewn perthynas â chynigion Llywodraeth y DU.
5. Yn nodi disgrifiad
y Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol y DU annibynnol o gynlluniau Llywodraeth y DU
ar gyfer Codi’r Gwastad fel ‘centrally controlled funding pots thinly spread
across a range of initiatives’.
6. Yn cytuno nad yw
Llywodraeth y DU wedi cyflwyno nac ennill mandad i dorri cronfeydd olynol yr UE
i Gymru na thanseilio’n unochrog ddatganoli yng Nghymru.
7. Yn credu y dylid
gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru a bod rhaid i Lywodraeth y DU roi’r
gorau i ddefnyddio Deddf y Farchnad Fewnol yn y fath fodd ag sy’n golygu bod
llai o lais gan Gymru.
Cronfa
Adnewyddu Cymunedol y DU: prospectws 2021-22 (Saesneg yn
unig)
Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru - tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Materion Cymreig - 27
Mai 2021 (Saesneg
yn unig)
Adroddiad
Blynyddol Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol y DU 2021 (Saesneg yn
unig)
Deddf y
Farchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cronfa
ffyniant gyffredin y DU a'i bwriad i leihau anghydraddoldebau rhwng cymunedau
ledled y DU.
2. Yn cytuno na ddylai
cyllideb flynyddol cronfa ffyniant gyffredin y DU fod yn llai na ffrydiau
ariannu'r UE a'r DU y mae'n eu disodli.
3. Yn croesawu rôl
llywodraeth leol yn y broses o ddefnyddio cronfa ffyniant gyffredin y
DU.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Ei Mawrhydi, awdurdodau lleol a gweinyddiaethau datganoledig i
ddatblygu system i olrhain a mesur effaith a chanlyniadau dymunol y gronfa.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnwys pwyntiau newydd
ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod dull
Llywodraeth y DU o ymdrin â'r meini prawf blaenoriaethu ar gyfer y cronfeydd
hyn yn anghyson â'r dull o ymdrin â chyllid a ddarparwyd gan yr UE
yn flaenorol a oedd yn seiliedig ar angen.
Yn galw am dryloywder
gan Lywodraeth y DU ar y meini prawf blaenoriaethu ar gyfer y cronfeydd hyn er
mwyn sicrhau nad oes unrhyw ardal yng Nghymru yn colli allan ar gyllid.
Gwelliant 3 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i osod gerbron y Senedd asesiad effaith sy'n dangos
effaith y trefniadau ariannu hyn ar ddosbarthu cyllid ledled Cymru a gwneud
penderfyniadau datganoledig yng Nghymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.32
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7708 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn cytuno nad yw ymateb Llywodraeth y DU i Gronfa Codi’r Gwastad a chyllid
olynol yr UE yn ehangach yn gwarantu na fydd Cymru yn derbyn yr un geiniog yn
llai a’i fod yn ymosodiad amlwg ar ddatganoli yng Nghymru.
2.
Yn cytuno bod peilot Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ar gyfer 2021-22 yn
cynrychioli toriad cyllid sylweddol i Gymru oherwydd byddai Llywodraeth Cymru
wedi derbyn o leiaf £375m y flwyddyn ar ffurf cronfeydd strwythurol yr UE.
3.
Yn nodi bod y toriad hwn yn y cyllid sydd ar gael yn fygythiad i swyddi a
gwasanaethau yng Nghymru.
4.
Yn rhannu’r pryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch
lefel y cyllid sydd ar gael a’r broses ar gyfer cyflawni a fynegwyd yn y
dystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig mewn perthynas â chynigion Llywodraeth
y DU.
5.
Yn nodi disgrifiad y Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol y DU annibynnol o
gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Codi’r Gwastad fel ‘centrally controlled
funding pots thinly spread across a range of initiatives’.
6.
Yn cytuno nad yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno nac ennill mandad i dorri
cronfeydd olynol yr UE i Gymru na thanseilio’n unochrog ddatganoli yng Nghymru.
7.
Yn credu y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru a bod rhaid i
Lywodraeth y DU roi’r gorau i ddefnyddio Deddf y Farchnad Fewnol yn y fath fodd
ag sy’n golygu bod llai o lais gan Gymru.
Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU: prospectws 2021-22 (Saesneg yn
unig)
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor
Materion Cymreig - 27 Mai 2021 (Saesneg yn unig)
Adroddiad Blynyddol Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol y DU 2021 (Saesneg yn
unig)
Deddf y Farchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn nodi cronfa ffyniant gyffredin y DU a'i bwriad i leihau anghydraddoldebau
rhwng cymunedau ledled y DU.
2.
Yn cytuno na ddylai cyllideb flynyddol cronfa ffyniant gyffredin y DU fod
yn llai na ffrydiau ariannu'r UE a'r DU y mae'n eu disodli.
3.
Yn croesawu rôl llywodraeth leol yn y broses o ddefnyddio cronfa ffyniant
gyffredin y DU.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Ei Mawrhydi, awdurdodau lleol a gweinyddiaethau
datganoledig i ddatblygu system i olrhain a mesur effaith a chanlyniadau
dymunol y gronfa.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
39 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2
Sian Gwenllian
(Arfon)
Cynnwys
pwyntiau newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
credu bod dull Llywodraeth y DU o ymdrin â'r meini prawf blaenoriaethu ar gyfer
y cronfeydd hyn yn anghyson â'r dull o ymdrin â chyllid a ddarparwyd
gan yr UE yn flaenorol a oedd yn seiliedig ar angen.
Yn
galw am dryloywder gan Lywodraeth y DU ar y meini prawf blaenoriaethu ar gyfer
y cronfeydd hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ardal yng Nghymru yn colli allan
ar gyllid.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
14 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3
Sian Gwenllian
(Arfon)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i osod gerbron y Senedd asesiad effaith sy'n dangos
effaith y trefniadau ariannu hyn ar ddosbarthu cyllid ledled Cymru a gwneud
penderfyniadau datganoledig yng Nghymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
14 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7708 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn cytuno nad yw ymateb Llywodraeth y DU i Gronfa Codi’r Gwastad a chyllid
olynol yr UE yn ehangach yn gwarantu na fydd Cymru yn derbyn yr un geiniog yn
llai a’i fod yn ymosodiad amlwg ar ddatganoli yng Nghymru.
2.
Yn cytuno bod peilot Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ar gyfer 2021-22 yn
cynrychioli toriad cyllid sylweddol i Gymru oherwydd byddai Llywodraeth Cymru
wedi derbyn o leiaf £375m y flwyddyn ar ffurf cronfeydd strwythurol yr UE.
3.
Yn credu bod dull Llywodraeth y DU o ymdrin â'r meini prawf blaenoriaethu ar
gyfer y cronfeydd hyn yn anghyson â'r dull o ymdrin â chyllid a
ddarparwyd gan yr UE yn flaenorol a oedd yn seiliedig ar angen.
4.
Yn galw am dryloywder gan Lywodraeth y DU ar y meini prawf blaenoriaethu ar
gyfer y cronfeydd hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ardal yng Nghymru yn colli
allan ar gyllid.
5.
Yn nodi bod y toriad hwn yn y cyllid sydd ar gael yn fygythiad i swyddi a
gwasanaethau yng Nghymru.
6.
Yn rhannu’r pryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch
lefel y cyllid sydd ar gael a’r broses ar gyfer cyflawni a fynegwyd yn y
dystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig mewn perthynas â chynigion
Llywodraeth y DU.
7.
Yn nodi disgrifiad y Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol y DU annibynnol o
gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Codi’r Gwastad fel ‘centrally controlled
funding pots thinly spread across a range of initiatives’.
8.
Yn cytuno nad yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno nac ennill mandad i dorri
cronfeydd olynol yr UE i Gymru na thanseilio’n unochrog ddatganoli yng Nghymru.
9.
Yn credu y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru a bod rhaid i
Lywodraeth y DU roi’r gorau i ddefnyddio Deddf y Farchnad Fewnol yn y fath fodd
ag sy’n golygu bod llai o lais gan Gymru.
10.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gerbron y Senedd asesiad effaith sy'n dangos
effaith y trefniadau ariannu hyn ar ddosbarthu cyllid ledled Cymru a gwneud
penderfyniadau datganoledig yng Nghymru.
Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU: prospectws 2021-22 (Saesneg yn
unig)
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor
Materion Cymreig - 27 Mai 2021 (Saesneg yn unig)
Adroddiad Blynyddol Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol y DU 2021 (Saesneg yn
unig)
Deddf y Farchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig)
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
15 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.