Cyfarfodydd

Cyllideb Comisiwn y Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/11/2025 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27

NDM9052 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27, fel y’i nodir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27, a osodwyd gerbron y Senedd ar 12 Tachwedd 2025, a’i bod yn cael ei hymgorffori yng Nghynnig y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.58 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

NDM9052Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: 

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27, fel y’i nodir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27, aosodwydgerbron ySenedd ar 12 Tachwedd 2025, ai bod yn cael ei hymgorffori yng Nghynnig y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

35 

13 

48 

Derbyniwyd y cynnig. 

 


Cyfarfod: 05/12/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 2 - Llythyr gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Adran 150 gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 - 6 Tachwedd 2024

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/12/2021 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 2 - Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Archwilio, Cynulliad Gogledd Iwerddon: Ystyried Trothwyon ar gyfer Monitro yn ystod y Flwyddyn: Comisiwn Cynulliad Gogledd Iwerddon - 29 Tachwedd 2021

Dogfennau ategol: