Cyfarfodydd

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/01/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 2 - Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ail Gyllideb Atodol 2021-22 – 4 Ionawr 2022

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/09/2021 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 7 – Craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22: Ymateb Llywodraeth Cymru – 23 Awst 2021

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/09/2021 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth ychwanegol am symiau canlyniadol Barnett a chymorth busnes – 19 Gorffennaf 2021

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/07/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)

Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2021-22

NDM7726 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 22 Mehefin 2021.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; 

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.32

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7726 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 22 Mehefin 2021.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; 

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

25

0

54

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 08/07/2021 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod yr adroddiad drafft

Papurau ategol:

FIN(6)-02-21 P1 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 02/07/2021 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru

Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol, Llywodraeth Cymru

 

Papurau ategol:

FIN(6)-01-21 P1 - Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22

FIN(6)-01-21 P2 - Dyraniadau prif grŵp gwariant

FIN(6)-01-21 P3 - Nodyn Esboniado

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf, gan amlinellu ei bod yn anodd cael darlun clir gan Lywodraeth y DU ynghylch cyllid canlyniadol Barnett.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ofyn i Weinidog yr Economi i roi’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:

 

·         dadansoddiad manwl o'r cyllid o £55 miliwn a oedd ar gael ar gyfer cymorth busnes ym mis Mai a mis Mehefin, gan gynnwys y rhesymau dros beidio â chymeradwyo ceisiadau 24 y cant o fusnesau, sut y cafodd y dyraniadau eu gwerthuso a sut y mae unrhyw danwariant o'r £55 miliwn wedi’i ailddyrannu.

 

·         rhagor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth busnes y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hariannu yn y dyfodol o’r pecyn cymorth o £200 miliwn.

 


Cyfarfod: 02/07/2021 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.