Cyfarfodydd
Busnes arall - Y Pwyllgor Busnes
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 28/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor
Busnes ddiweddariad ar lafar a chytunodd i gyfeirio ymlaen llaw’r Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol
Rhif 2, a fydd yn cael ei osod yr wythnos hon, at y Pwyllgor Diwylliant,
Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu, gyda dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno adroddiad ar 8 Mehefin 2023.
Cyfarfod: 07/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar lafar gan y
Trefnydd ar lawer o Femoranda a chytunodd i:
- gyfeirio unrhyw
Femoranda atodol pellach a osodir ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir
(Dirymu a Diwygio) i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar fore 14
Mawrth 2023, gan gydnabod na fyddai fawr ddim amser, os o gwbl, ar gyfer
craffu cyn y ddadl a drefnir;
- ymestyn y
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar yr holl Femoranda cyfredol ar y
Bil Caffael hyd at 23 Mawrth 2023; ac
- ymestyn y
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar yr holl Femoranda cyfredol ar y
Bil Troseddau Economaidd hyd at 30 Mawrth 2023.
Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad ymghylch Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am
Ddata) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr y derbyniodd gopi ohono
ar 6 Mawrth, a oedd wedi'i ddosbarthu ar wahân, gan Gadeirydd y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd
ynghylch nifer o ddiffygion yn Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac
Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023, y disgwylir iddynt gael eu trafod yn y Cyfarfod
Llawn ar 14 Mawrth. Dywedodd y Trefnydd y byddai'r Gweinidog yn ystyried ac yn
ymateb i'r llythyr fel mater o flaenoriaeth.
Cyfraniad gan Gareth Davies AS yn y Cyfarfod Llawn ar 1
Mawrth 2023
Cododd y Trefnydd gyfraniad a wnaed gan Gareth Davies AS
yn ystod Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Cyfarfod Llawn
ar 1 Mawrth, ynghylch darparu safleoedd i deithwyr, a gofynodd a oedd yr Aelod
wedi ymddiheuro am yr iaith a ddefnyddiwyd. Cadarnhaodd y Llywydd ei bod wedi
cael ymddiheuriad ac wedi ei dderbyn.