Cyfarfodydd

Aelodaeth pwyllgorau (gan gynnwys ethol cadeiryddion)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Ymgysylltiad Ewropeaidd

Cyfarfod: 02/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Enwebiadau ar gyfer Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau-Grŵp Cyswllt y DU.

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr enwebiadau a chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.

Cyfarfod: 06/10/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)

Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.2T, 17.3, 33.6 a 33.8 i ethol aelodau a Chadeirydd i'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, i atal y Rheolau Sefydlog dros dro mewn cysylltiad â'r pwyllgor hwnnw, a chytuno ar drefniadau pleidleisio yn y pwyllgor

NDM7800 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

a) Jayne Bryant (Llafur Cymru), Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig), Sian Gwenllian (Plaid Cymru), a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd;

b) Elin Jones (Llywydd) fel aelod o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd;

c) Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

3. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.37 i 17.39 yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

4. Yn penderfynu, lle mae angen pleidlais i waredu busnes, y bydd pleidleisio yn y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd yn gweithredu fel a ganlyn:

a) dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff y cadeirydd bleidleisio;

b) ni chaiff y Llywydd bleidleisio;

c) caiff pob aelod arall o'r Pwyllgor bleidleisio ac, os ydynt yn perthyn i grŵp gwleidyddol, mae pob aelod yn cael un bleidlais ar gyfer pob aelod o'r grŵp gwleidyddol y mae’n perthyn iddo (gan gynnwys ei hun a'r Llywydd a'r Dirprwy os yw’n aelodau o'i grŵp gwleidyddol);

d) rhaid pasio penderfyniad i gytuno ar argymhellion i'r Senedd ar bleidlais lle mae'r aelodau sy'n pleidleisio o'i blaid yn cario o leiaf 40 pleidlais.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

NDM7800 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

a) Jayne Bryant (Llafur Cymru), Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig), Sian Gwenllian (Plaid Cymru), a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd;

b) Elin Jones (Llywydd) fel aelod o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd;

c) Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

3. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.37 i 17.39 yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

4. Yn penderfynu, lle mae angen pleidlais i waredu busnes, y bydd pleidleisio yn y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd yn gweithredu fel a ganlyn:

a) dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff y cadeirydd bleidleisio;

b) ni chaiff y Llywydd bleidleisio;

c) caiff pob aelod arall o'r Pwyllgor bleidleisio ac, os ydynt yn perthyn i grŵp gwleidyddol, mae pob aelod yn cael un bleidlais ar gyfer pob aelod o'r grŵp gwleidyddol y maen perthyn iddo (gan gynnwys ei hun a'r Llywydd a'r Dirprwy os ywn aelodau o'i grŵp gwleidyddol);

d) rhaid pasio penderfyniad i gytuno ar argymhellion i'r Senedd ar bleidlais lle mae'r aelodau sy'n pleidleisio o'i blaid yn cario o leiaf 40 pleidlais.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.25 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

Cyfarfod: 06/10/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2T ac 17.3 i ethol aelodau a Chadeirydd i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

NDM7799 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

a) John Griffiths (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig) a Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog; a

b) David Rees (Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

NDM7799 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

a) John Griffiths (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig) a Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog; a

b) David Rees (Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfarfod: 14/07/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Cynnig i ethol aelodau i bwyllgor: Pwyllgor y Llywydd

NDM7769 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a Rheol Sefydlog 18.B4:

Yn ethol y canlynol fel aelodau o Bwyllgor y Llywydd:

a) Y Dirprwy Lywydd fel Cadeirydd y Pwyllgor;

b) Peredur Owen Griffiths, (cadeirydd y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19); a

c) Joyce Watson (Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) a Rhys ab Owen (Plaid Cymru).

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.13

NDM7769 Elin Jones (Ceredigion)  

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a Rheol Sefydlog 18.B4:

Yn ethol y canlynol yn aelodau o Bwyllgor y Llywydd:

a) Y Dirprwy Lywydd yn Gadeirydd y Pwyllgor;b) Peredur Owen Griffiths (cadeirydd y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19); ac) Joyce Watson (Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) a Rhys ab Owen (Plaid Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfarfod: 26/05/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 13)

Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro

NDM7695 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. Jack Sargeant (Llafur Cymru), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig), a Rhys ab Owen (Plaid Cymru) fel aelodau o’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro.

2. Y Dirprwy Lywydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.38

NDM7695 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. Jack Sargeant (Llafur Cymru), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig), a Rhys ab Owen (Plaid Cymru) fel aelodau o’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro.

2. Y Dirprwy Lywydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfarfod: 26/05/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 12)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2T mewn perthynas â'r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro

NDM7696 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro.