Cyfarfodydd
Ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/05/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 2)
Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.54
Gwahoddodd y
Llywydd (Elin Jones) enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.
Cafodd David Rees
ei enwebu gan Joyce Watson. Eiliodd Llyr Gruffydd yr enwebiad.
Cafodd Hefin David
ei enwebu gan Dawn Bowden. Eiliodd Laura Anne Jones yr enwebiad.
Gwahoddodd y
Llywydd yr ymgeiswyr i annerch y Senedd.
Gan fod dau
enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 6.8.
Canlyniad y
bleidlais gyfrinachol oedd:
David Rees |
Hefin David |
Ymatal |
Cyfanswm |
35 |
24 |
0 |
59 |
Cyhoeddodd y Llywydd fod David Rees wedi’i
ethol yn Ddirprwy Lywydd.
Cyfarfod: 12/05/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 1)
Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6
Cofnodion:
Dechreuodd
yr eitem am 15.05
Gwahoddodd Clerc y Senedd
enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.
Cafodd Elin Jones ei henwebu
gan Lynne Neagle. Eiliodd Siân Gwenllian yr enwebiad.
Cafodd Russell George ei enwebu
gan Laura Anne Jones. Eiliodd Alun Davies yr enwebiad.
Gwahoddodd y Clerc yr
ymgeiswyr i annerch y Senedd.
Gan fod dau enwebiad,
cynhaliwyd pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 6.8.
Canlyniad y bleidlais
gyfrinachol oedd:
Elin
Jones |
Russell George |
Ymatal |
Cyfanswm |
35 |
25 |
0 |
60 |
Cyhoeddodd y Clerc fod
Elin Jones wedi’i hethol yn Llywydd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.50 cafodd y
cyfarfod ei atal dros dro cyn i’r Llywydd ddod i’r Gadair.