Cyfarfodydd
NDM7683 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Dyfodol Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 21)
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Dyfodol Cymru
NDM7683 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith bod llywodraethau olynol Cymru
dan arweiniad Llafur wedi methu â gwella cyfleoedd bywyd pobl Cymru.
2. Yn cydnabod bod Dirprwy Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei
wneud o ran yr economi.
3. Yn nodi bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar gyfer ôl-groniadau cyn
i'r pandemig ddod i ben.
4. Yn nodi ymhellach bod cyn Brif Weinidog Cymru
hefyd wedi cyfaddef bod Llafur wedi tynnu ei llygad oddi ar y bêl ar addysg.
5. Yn cydnabod, er mwyn ailadeiladu Cymru, fod
angen newid cyfeiriad a chael llywodraeth newydd ar 6 Mai 2021, a fydd yn
darparu cynllun adfer i Gymru, sy'n cynnwys:
a) creu 65,000 o swyddi newydd, gydag o leiaf
15,000 o swyddi gwyrdd;
b) mynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn amseroedd
aros yng Nghymru;
c) rhoi gorau i danariannu ein pobl ifanc;
d) adeiladu'r seilwaith sydd ei angen ar Gymru gan
gynnwys ffordd liniaru'r M4 ynghyd ag uwchraddio'r A40 a'r A55;
e) cefnogi pobl gyda chostau byw drwy rewi'r dreth
gyngor am ddwy flynedd;
f) rhoi Cymru ar y llwybr tuag at sero net
erbyn 2050.
BBC Newyddion
- Theresa May claims Welsh Labour betrayed generation of children - 18 Mai
2018 (Saesneg yn unig)
BBC Newyddion
- Labour minister: 'We don't know what we're doing on economy' -
25 Mehefin 2019 (Saesneg yn unig)
BBC Newyddion - Covid:
Cancer delays 'could cause 2,000 deaths in Wales' - 9 Tachwedd 2020 (Saesneg
yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau
digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a Covid-19, wedi:
a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o
brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan
gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach;
b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod
triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar
gyfartaledd;
c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a
datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion;
d) datgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod
targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net;
e) adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r
rhai sy’n rhentu.
2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru
Gwelliant 2 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd Cymru dim ond yn adfer yn llwyr drwy
ethol llywodraeth newydd a fydd yn gadael i bobl Cymru, nid San Steffan,
benderfynu ar ein dyfodol.
Yn credu bod angen newid cyfeiriad ar Gymru drwy ganiatáu
i bobl Cymru ddweud eu dweud ynghylch a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol
drwy gynnal refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.
Gwelliant 3 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, er mwyn ailadeiladu Cymru, y dylai'r Senedd
nesaf gael pwerau dros faterion sydd wedi'u cadw yn ôl i San Steffan ar hyn o
bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu,
prosiectau ynni, ac Ystâd y Goron.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 18.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7683 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith bod
llywodraethau olynol Cymru dan arweiniad Llafur wedi methu â gwella cyfleoedd
bywyd pobl Cymru.
2. Yn cydnabod bod Dirprwy Weinidog
yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod beth y
maent yn ei wneud o ran yr economi.
3. Yn nodi bod y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar
gyfer ôl-groniadau cyn i'r pandemig ddod i ben.
4. Yn nodi ymhellach bod cyn
Brif Weinidog Cymru hefyd wedi cyfaddef bod Llafur wedi tynnu ei llygad oddi ar
y bêl ar addysg.
5. Yn cydnabod, er mwyn
ailadeiladu Cymru, fod angen newid cyfeiriad a chael llywodraeth newydd ar 6
Mai 2021, a fydd yn darparu cynllun adfer i Gymru, sy'n cynnwys:
BBC News
- Theresa May claims Welsh Labour betrayed generation of children - 18 Mai
2018 (Saesneg yn unig)
BBC News
- Labour minister: 'We don't know what we're doing on economy' -
25 Mehefin 2019 (Saesneg yn unig)
BBC
News- Covid: Cancer delays 'could cause 2,000 deaths in Wales' -
9 Tachwedd 2020 (Saesneg yn unig)
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
41 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau
digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a Covid-19, wedi:
a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o
brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan
gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach;
b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod
triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar
gyfartaledd;
c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a
datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion;
d) Ddatgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod
targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net;
e) Adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r
rhai sy’n rhentu.
2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.
Adroddiad
Blynyddol Llywodraeth Cymru
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
26 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd Cymru dim ond yn adfer yn llwyr drwy
ethol llywodraeth newydd a fydd yn gadael i bobl Cymru, nid San Steffan,
benderfynu ar ein dyfodol.
Yn credu bod angen newid cyfeiriad ar Gymru drwy ganiatáu
i bobl Cymru ddweud eu dweud ynghylch a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol
drwy gynnal refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
44 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, er mwyn ailadeiladu Cymru, y dylai'r Senedd
nesaf gael pwerau dros faterion sydd wedi'u cadw yn ôl i San Steffan ar hyn o
bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu,
prosiectau ynni, ac Ystâd y Goron.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
44 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7683 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau
digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a Covid-19, wedi:
a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o
brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan
gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach;
b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod
triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar
gyfartaledd;
c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a
datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion;
d) Ddatgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod
targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net;
e) Adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r
rhai sy’n rhentu.
2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.
Adroddiad Blynyddol Y Rhaglen
Lywodraethu
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gan fod nifer y
pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw i bleidleisio
yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio, yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.