Cyfarfodydd

NDM7675 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 14)

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro

NDM7675 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12 a 34, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes ynghylch defnyddio pleidleisio electronig o bell o dan Reol Sefydlog 34.14A, yn dilyn etholiad y Senedd, gan gynnwys at ddibenion ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.01

NDM7675 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 12 a 34, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes ynghylch defnyddio pleidleisio electronig o bell o dan Reol Sefydlog 34.14A, yn dilyn etholiad y Senedd, gan gynnwys at ddibenion ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.