Cyfarfodydd

NDM7676 Cynnig i Gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 17)

Cynnig i Gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd

NDM7680 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr adolygiad o'r cod ymddygiad dyddiedig 17 Mawrth 2021 (“yr adroddiad”).

2. Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021, i ddod i rym ar ddechrau'r chweched Senedd.

3. Yn nodi’r canllawiau sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymddygiad a nodir yn atodiad A i’r adroddiad.

Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr Adolygiad o'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd

 

.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.27

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7680 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr Adolygiad o'r Cod Ymddygiad dyddiedig 17 Mawrth 2021 (“yr adroddiad”).

2. Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021, i ddod i rym ar ddechrau'r chweched Senedd.

3. Yn nodi’r canllawiau sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymddygiad a nodir yn atodiad A i’r adroddiad.

Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr Adolygiad o'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

5

54

Derbyniwyd y cynnig.