Cyfarfodydd

NDM7673 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau

NDM7673 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7673 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

6

55

Derbyniwyd y cynnig.