Cyfarfodydd
NDM7655 Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o Gyflogau'r GIG
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o Gyflogau'r GIG
NDM7655 Sian Gwenllian
(Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i Gorff
Adolygu Cyflogau'r GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i nyrsys a
staff eraill y GIG a fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu cyflogau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau
pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG yn cefnogi galwadau penodol yr undebau
llafur a chyrff eraill sy'n cynrychioli staff iechyd a gofal cymdeithasol yng
Nghymru am godiad cyflog teg a haeddiannol i adlewyrchu'r aberth a wnaed yn
ystod y pandemig.
3. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu setliad
cyflog a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan
gynnwys isafswm gwarantedig o £10 yr awr i weithwyr gofal i ddod
â'r gwahaniaeth presennol rhwng iechyd a gofal i ben.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod cyflogau'r GIG wedi'u datganoli ac
yn croesawu'r cynnydd ychwanegol o £2.1 biliwn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru
ar gyfer 2021-2022.
Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi nodi'r
safbwynt gwahanol i undeb llafur y GIG o ran yr hyn y credant sy’n godiad
cyflog teg a fforddiadwy ac wedi cyflwyno sylwadau pellach i Gorff Adolygu
Cyflogau'r GIG i gadarnhau nad oes cap mympwyol wedi'i bennu.
Yn credu y dylai'r cyrff adolygu cyflogau adrodd yn
annibynnol ar dâl sy'n deg ac yn fforddiadwy.
Yn cydnabod bod GIG Cymru yn talu'r Cyflog Byw
Gwirioneddol, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel
lleiafswm cyfradd gyflog i weithwyr gofal cymdeithasol ac wedi sefydlu'r Fforwm
Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy'n edrych ar sut y gellir gwella telerau ac
amodau yn y sector.
Yn cydnabod bod un o themâu allweddol "Cymru
Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol" yn
canolbwyntio ar wobrwyo a chydnabod staff yn deg.
Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
[Os derbynnir Gwelliant 2, caiff Gwelliant 3 ei
dad-ddethol]
Gwelliant 3
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl 'Lywodraeth nesaf
Cymru' a rhoi yn ei le
'i:
a) gweithredu argymhellion y corff adolygu
cyflogau;
b) cyflwyno setliad cyflog a chadw diwygiedig ar
gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol;
c) creu pecyn cymorth iechyd meddwl sylweddol ar
gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dioddef o effaith y pandemig.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.30
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7655 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i
Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i
nyrsys a staff eraill y GIG a fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu
cyflogau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau pellach i Gorff
Adolygu Cyflogau'r GIG yn cefnogi galwadau penodol yr undebau llafur a chyrff
eraill sy'n cynrychioli staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru am godiad
cyflog teg a haeddiannol i adlewyrchu'r aberth a wnaed yn ystod y pandemig.
3. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu setliad cyflog a chadw
diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys isafswm
gwarantedig o £10 yr awr i weithwyr gofal i ddod â'r gwahaniaeth
presennol rhwng iechyd a gofal i ben.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
4 |
38 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn
ei le:
Yn cydnabod bod
cyflogau'r GIG wedi'u datganoli ac yn croesawu'r cynnydd ychwanegol o £2.1
biliwn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
2 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi nodi'r safbwynt gwahanol i undeb llafur y GIG o ran yr
hyn y credant sy’n godiad cyflog teg a fforddiadwy ac wedi cyflwyno sylwadau
pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG i gadarnhau nad oes cap mympwyol wedi'i
bennu.
Yn credu y dylai'r cyrff
adolygu cyflogau adrodd yn annibynnol ar dâl sy'n deg ac yn fforddiadwy.
Yn cydnabod bod GIG
Cymru yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r
Cyflog Byw Gwirioneddol fel lleiafswm cyfradd gyflog i weithwyr gofal
cymdeithasol ac wedi sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy'n edrych
ar sut y gellir gwella telerau ac amodau yn y sector.
Yn cydnabod bod un o
themâu allweddol "Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd
a Gofal Cymdeithasol" yn canolbwyntio ar wobrwyo a chydnabod staff yn
deg.
Cymru
Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
5 |
19 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod Gwelliant 2 wedi
ei dderbyn, cafodd Gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7655 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i Gorff Adolygu Cyflogau'r
GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i nyrsys a staff eraill y GIG a
fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu cyflogau.
2. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi nodi'r safbwynt gwahanol i undeb llafur y GIG o ran yr
hyn y credant sy’n godiad cyflog teg a fforddiadwy ac wedi cyflwyno sylwadau
pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG i gadarnhau nad oes cap mympwyol wedi'i
bennu.
3. Yn credu y dylai'r
cyrff adolygu cyflogau adrodd yn annibynnol ar dâl sy'n deg ac yn fforddiadwy.
4. Yn cydnabod bod GIG
Cymru yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r
Cyflog Byw Gwirioneddol fel lleiafswm cyfradd gyflog i weithwyr gofal
cymdeithasol ac wedi sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy'n edrych
ar sut y gellir gwella telerau ac amodau yn y sector.
5. Yn cydnabod bod un o
themâu allweddol "Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd
a Gofal Cymdeithasol" yn canolbwyntio ar wobrwyo a chydnabod staff yn
deg.
Cymru
Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
2 |
20 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.