Cyfarfodydd
NDM7552 Member Debate under Standing Order 11.21(iv) - Type 2 Diabetes
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Diabetes math 2
NDM7552 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) mai Cymru yw'r lle gyda'r cyfraddau
uchaf o ddiabetes math 2 o unrhyw le yng ngorllewin Ewrop, lle mae dros 200,000
wedi cael diagnosis, lle yr amgcangyfrifir bod 65,000 gyda math 2 heb
ddiagnosis, a lle mae 500,000 arall mewn perygl o gael diabetes;
b) bod gofalu am bobl â diabetes
eisoes yn defnyddio 10 y cant o gyllideb y GIG;
c) y risgiau cynyddol o ddal
COVID-19 ar gyfer dinasyddion sydd â diabetes fel cyflwr sy'n bodoli eisoes; a
d) llwyddiant a
chost-effeithiolrwydd y rhaglen Sgiliau Maeth am Oes, sydd wedi ennill sawl gwobr,
a dreialwyd yng Nghwm Afan.
2. Yn annog Llywodraeth Cymru
i brif ffrydio'r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes ledled Cymru fel elfen ganolog o
gynllun atal diabetes i Gymru.
Cyd-gyflwynwyr
Dai Lloyd
Jack Sargeant
Cefnogwyr
Andrew RT Davies
Darren Millar
Helen Mary Jones
Jayne Bryant
Cofnodion:
Dechreuodd
yr eitem am 15.18
NDM7552 Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) mai Cymru yw'r lle gyda'r
cyfraddau uchaf o ddiabetes math 2 o unrhyw le yng ngorllewin Ewrop, lle mae
dros 200,000 wedi cael diagnosis, lle yr amcangyfrifir bod 65,000 gyda math 2
heb ddiagnosis, a lle mae 500,000 arall mewn perygl o gael diabetes;
b) bod gofalu am bobl â
diabetes eisoes yn defnyddio 10 y cant o gyllideb y GIG;
c) y risgiau cynyddol o ddal
COVID-19 ar gyfer dinasyddion sydd â diabetes fel cyflwr sy'n bodoli eisoes; a
d) llwyddiant a
chost-effeithiolrwydd y rhaglen Sgiliau Maeth am Oes, sydd wedi ennill sawl
gwobr, a dreialwyd yng Nghwm Afan.
2. Yn annog Llywodraeth Cymru
i brif ffrydio'r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes ledled Cymru fel elfen ganolog o
gynllun atal diabetes i Gymru.
Cyd-gyflwynwyr
Cefnogwyr
Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.