Cyfarfodydd

SL(5)772 - Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 - TYNNWYD YN ÔL

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

NNDM7684 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o God Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2021.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.11

NNDM7684 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o God Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.