Cyfarfodydd

P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/05/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn am ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor;
  • rhoi gwybod i Antoinette Sandbach AC am y cynnydd ar y ddeiseb, o ystyried ei diddordeb yn y maes hwn.

 


Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at;

·         Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gofyn a fydd unrhyw newid agwedd yn dilyn y tân diweddar yn Smethwick; a’r

·         Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn holi pa gamau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd ar y mater.


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gofyn pa gamau a fydd yn cael eu cymryd mewn ymateb i'r adroddiad; ac i

·         rannu'r gwaith ymchwil gyda'r deisebwyr.

 


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn iddo hysbysu’r Pwyllgor o unrhyw ddatblygiadau yn y gwaith ymchwil ac i rannu’r astudiaeth â’r Pwyllgor pan gaiff ei chyhoeddi.

 


Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon.

Dywedodd Aelodau’r Pwyllgor eu bod wedi rhyddhau balŵns/lanternau yn y gorffennol, gan nad oeddent yn gwybod ar y pryd am eu heffaith niweidiol.

Cytunodd y Pwyllgor i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r deisebwyr ac i grwpiau eraill â diddordeb am y gwaith y bydd y Gweinidog yn ei wneud ar effaith rhyddhau balŵns a lanternau.

 

 


Cyfarfod: 01/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog.