Cyfarfodydd
NDM7598 Dadl Plaid Cymru - Cymhwystra prydau ysgol am ddim
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/02/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 24/02/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 24/02/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Cymhwystra prydau ysgol am ddim
NDM7598 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnodd
cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei
ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf
cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teulu sy'n derbyn
credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw
cyllid cyhoeddus ar gael iddynt.
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas
fodern bod plant yn dal i fynd heb fwyd ac y byddwn yn parhau i gynyddu ein
hymdrechion i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddileu tlodi a newyn.
2. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol
i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol yn parhau yn ystod y pandemig ac
mai dyma'r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod
gwyliau'r ysgol;
b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod
plant sy'n hunanynysu neu'n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth
prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;
c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i
deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf
hael yn y DU;
d) wedi sicrhau mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU o
hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;
e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi
Addysg (EPI) am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol
am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;
f) wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cyflym o'r holl
opsiynau sydd ar gael o ran adnoddau a pholisi gan gynnwys y trothwy incwm ar
gyfer cael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar ddata'r Cyfrifiad Ysgolion
Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.36
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7598 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod yr adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb
ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i
ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn
teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn
mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
2 |
31 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn
credu ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern bod plant yn dal i fynd heb
fwyd ac y byddwn yn parhau i gynyddu ein hymdrechion i ddarparu prydau ysgol am
ddim i ddileu tlodi a newyn.
2. Yn
croesawu bod Llywodraeth Cymru:
a)
wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o
brydau ysgol yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma'r llywodraeth gyntaf yn
y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau'r ysgol;
b)
wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy'n hunanynysu neu'n
gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad
oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;
c) yn
darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol
am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;
d)
wedi sicrhau mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i
bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;
e)
wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) am lwyddo i
sicrhau bod teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y
pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;
f)
wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cyflym o'r holl opsiynau sydd ar gael o ran
adnoddau a pholisi gan gynnwys y trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am
ddim yn seiliedig ar ddata'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion
(CYBLD).
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
3 |
19 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.