Cyfarfodydd
P-05-1141 Dylid gwneud etholiad y Senedd yn deg - caniatáu danfon taflenni gwleidyddol dan gyfyngiadau symud
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
2 P-05-1141 Dylid gwneud Etholiad y Senedd yn deg - caniatáu danfon taflenni gwleidyddol dan gyfyngiadau symud
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Datganodd Neil
McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'r heddlu wedi
ceisio rhoi rhybudd a dirwy iddo am ddosbarthu taflenni.
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
nododd y
cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar 12 Mawrth y gellir ailddechrau
dosbarthu taflenni'n lleol, yn dilyn y newid yn y cyngor i 'aros yn lleol'. Yng
ngoleuni hyn, ac oherwydd mai hwn yw cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn yr Etholiad,
cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.