Cyfarfodydd

P-05-1131 Rhoi terfyn ar unwaith ar waith carthu oddi ar arfordir Gwyr, nes y ceir gwerthusiad o'r effeithiau andwyol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1131 Rhoi terfyn ar unwaith ar waith carthu oddi ar arfordir Gŵyr, nes y ceir gwerthusiad o’r effeithiau andwyol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ddarparu'r wybodaeth bellach a gafwyd gan y deisebydd i'r Tîm Trwyddedu Morol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ofyn iddo edrych ar yr arsylwadau a wnaed a chysylltu'n uniongyrchol â'r deisebydd.

 

Gan mai rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw monitro a gorfodi, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer mwy y gallai'r Pwyllgor ei wneud y tu hwnt i hynny, ac felly cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.