Cyfarfodydd

P-05-1130 Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1130 Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod yr adeilad wedi cael ei werthu, a mynegodd y gobaith y gall y perchnogion newydd weithio gydag ymgyrchwyr i ddatblygu'r safle er budd y gymuned. Nododd y Cadeirydd angerdd y deisebwyr a oedd wedi ysgrifennu i gefnogi'r ddeiseb. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebwyr a chau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1130 Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

ysgrifennu at y deisebwyr i nodi'r amser cyfyngedig iawn sy'n weddill yn nhymor presennol y Senedd a throsglwyddo’r ddeiseb i'r pwyllgor sy’n ei olynu ei thrafod yn y Chweched Senedd.