Cyfarfodydd

P-05-1128 Canslo 'asesiadau' allanol ar gyfer cymwysterau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn 2021 a defnyddio graddau a aseswyd gan athrawon yn unig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1128 Canslo 'asesiadau' allanol ar gyfer cymwysterau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn 2021 a defnyddio graddau a aseswyd gan athrawon yn unig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ddeiseb a'r penderfyniad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ers hynny i ganslo asesiadau allanol ar gyfer 2021. Yng ngoleuni’r penderfyniad hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i gau dwy ddeiseb arall sy'n casglu llofnodion ar hyn o bryd oherwydd bod y camau y maent yn gofyn amdanynt eisoes wedi'u cymryd: Canslo asesiadau allanol ar ffurf arholiadau ar gyfer TGAU yn 2021 ac ymddiried yn ein hathrawon ac Ail-werthuso ac egluro’r sefyllfa o ran asesiadau TGAU, Safon UG a Safon Uwch.