Cyfarfodydd

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/10/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Rhan 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017: asesiadau o’r effaith ar iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 06/10/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 6)

6 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Rhan 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017: asesiadau o’r effaith ar iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 08/02/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Newidiadau'n ymwneud â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (gwahardd ysmygu)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 10

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr wybodaeth a oedd yn amlinellu newidiadau i ddeddfwriaeth yn ymwneud â'r gwaharddiad ar ysmygu, gan roi sylw penodol i'r lloches ysmygu ar ystâd Tŷ Hywel. Roeddent yn teimlo y dylai Comisiwn y Chweched Senedd ystyried a yw'r lloches ysmygu yn gyfleuster priodol ar gyfer ystâd y Senedd.