Cyfarfodydd

SL(5)718 - Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/01/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

NDM7545 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2021.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.35

NDM7545 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 18/01/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 SL(5)718 – Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

CLA(5)-02-21 – Papur 19 – Adroddiad

CLA(5)-02-21 – Papur 20 – Rheoliadau

CLA(5)-02-21 – Papur 21 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-01-21 – Papur 22 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, 6 Ionawr 2021

CLA(5)-01-21 – Papur 23 – Datganiad ysgrifenedig, 8 Ionawr 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 


Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 18 Ionawr fel terfyn amser adrodd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.