Cyfarfodydd

P-05-1116 Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1116 Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd y blaenoriaethu cynyddol a roddir yn awr i bobl ag anabledd dysgu yn y rhaglen frechu yn erbyn Covid-19. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd a chau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1116 Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Leanne Wood y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae hi'n adnabod y deisebydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eto ynghylch y rhaglen frechu a gofyn:

·         a fyddai modd ystyried rhoi blaenoriaeth i bobl ag anableddau dysgu o bob oed sy'n byw mewn lleoliadau preswyl neu gartref gofal;

·         beth a ystyriwyd wrth bennu lefel flaenoriaeth i’r grŵp hwn; a

·         pryd y dylai'r grŵp hwn ddisgwyl cael eu brechlyn, yn ôl y rhaglen frechu bresennol.