Cyfarfodydd

P-05-1107 Caniatáu i gantorion / adloniant byw ailddechrau yn yr awyr agored

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1107 Caniatáu i gantorion / adloniant byw ailddechrau yn yr awyr agored

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. Yng ngoleuni bwriad y Llywodraeth i lacio cyfyngiadau fesul tipyn yn y cylch adolygu bob tair wythnos, a chan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn Etholiad y Senedd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.