Cyfarfodydd

P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a llongyfarchodd y deisebydd ar ei ymgyrchu llwyddiannus dros nifer o flynyddoedd. Roedd yr Aelodau’n croesawu’r canlyniad cadarnhaol, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i gyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus. O ystyried hyn, cytunodd yr Aelodau felly i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y mater a’i bod wrthi’n ceisio mynd i'r afael ag ef. Cytunodd y Pwyllgor i gadw’r ddeiseb ar agor a chroesawu’r cynnig o ddiweddariadau cynnydd pellach gan y Dirprwy Weinidog.

 


Cyfarfod: 17/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd pa mor bwysig yw hi i sicrhau yr eir i'r afael â'r heriau presennol, sy'n cyfyngu ar lais a rheolaeth unigolion.

Croesawodd yr Aelodau’r cynnig o ddiweddariad gan y Dirprwy Weinidog a chytunwyd i gadw’r ddeiseb ar agor a’i hystyried eto pan ddaw’r diweddariad i law.

 


Cyfarfod: 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn mynegi pryder ynghylch y methiant i sicrhau annibyniaeth unigolion a rheolaeth dros eu darpariaeth gofal. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn iddi:

  • Hyrwyddo'r defnydd o Ymddiriedolaethau Defnyddwyr Annibynnol o fewn Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus y GIG, wedi'i gefnogi gan ganllawiau ymarferol, manwl ar y broses o sefydlu a chynnal ymddiriedolaethau o'r fath.
  • Cynnwys templed enghreifftiol o Ymddiriedolaeth o'r fath: templed sydd mor syml â phosibl ac un sy'n blaenoriaethu cynnal annibyniaeth yr unigolyn a’i reolaeth dros ei ddarpariaeth gofal; a
  • Sicrhau bod Ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth yn cael eu penodi gan y buddiolwr unigol neu Ganolfan Byw'n Annibynnol neu endid tebyg.

 

 


Cyfarfod: 07/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyrioedd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i:

  • ysgrifennu at yr arbenigwyr a enwir gan y deisebydd i ofyn eu barn ar y ddeiseb i lunio'r llythyr at y Gweinidog
  • ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i rannu siom y deisebydd a'r dadansoddiad gan yr arbenigwyr
  • gofyn am eglurhad ynghylch a fydd disgwyl i Fyrddau Iechyd Lleol ddarparu pecynnau ar y cyd a chomisiynu Ymddiriedolaethau Defnyddwyr Annibynnol a pha ganllawiau a chymorth fydd ar gael i sicrhau bod hyn yn digwydd; ac
  • o gofio mai'r ddeddfwriaeth yw'r rhwystr, gofyn pam nad yw camau'n cael eu cymryd i ddiwygio'r ddeddfwriaeth ddiffygiol.

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd newydd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwaith y gweithgor, ynghyd ag amserlen ar gyfer gweld cynnydd ar y mater hwn.

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r ymrwymiad a wnaed gan y Gweinidog i ystyried opsiynau i fynd i'r afael â'r materion a godwyd, cytunodd i drosglwyddo’r ddeiseb i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn dilyn Etholiad y Senedd.