Cyfarfodydd

Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/09/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar Alldro 2020-21 – 5 Awst 2022

Dogfennau ategol:

Cyfarfod: 10/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch Cynnig Cyllideb Atodol diwygiedig – 2 Mawrth 2021

Dogfennau ategol:

Cyfarfod: 10/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch cyllid a ddyrannwyd i gefnogi busnes yn ystod y pandemig – 2 Mawrth 2021

Dogfennau ategol:

Cyfarfod: 09/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

Dadl: Trydedd Gyllideb Atodol 2020-21

NDM7622 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30:

1. Yn cymeradwyo'r Drydedd Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 2 Mawrth 2021.

2. Yn nodi bod y categori adnoddau cronnus ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan Ran 2 o Atodlen 4 i Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 wedi'i ddiwygio i gynnwys 'ad-dalu arian pensiwn dros ben’ fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Pwyllgor Cyllid i'w ystyried yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2021.

3. Yn nodi ymhellach yr addasiadau cyfatebol yn Atodlen 6 ar dudalennau 27 a 28 i gysoni'n gywir yr adnoddau y gofynnir amdanynt drwy leihau DEL Adnoddau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru £974,000, cynyddu’r AME Adnoddau £974,000 a chynyddu'r Gronfa Adnoddau DEL heb ei Dyrannu £974,000.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

11

12

51

Derbyniwyd y cynnig.

Cyfarfod: 03/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: Trafod yr adroddiad drafft

Papurau ategol:

FIN(5)-07-21 P1 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.

Cyfarfod: 24/02/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

Cyfarfod: 24/02/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru

Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Rheolaeth Ariannol

Papurau ategol:

FIN(5)-06-21 P1 – Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

FIN(5)-06-21 P2 – Dyraniadau prif grŵp gwariant

FIN(5)-06-21 P3 – Nodyn Esboniadol

FIN(5)-06-21 P4 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Dull ac amseriad Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 - 1 Chwefror 2021

FIN(5)-06-21 P5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Cronfa Wrth Gefn y DU - 10 Chwefror 2021

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch trydedd gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; 

Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaethau Ariannol.

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

- Manylion pellach, drwy'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i wella’r broses o rannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd.

- Gwybodaeth bellach, drwy'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ynghylch cronfa galedi’r awdurdodau lleol, ac yn benodol ynghylch y fformiwla sy'n ymwneud ag arbedion a gollwyd gan awdurdodau lleol o ganlyniad i'r pandemig.

- Manylion pellach ynghylch y cyllid sydd wedi’i ddyrannu i gefnogi busnesau yn ystod y pandemig.