Cyfarfodydd

Debate: New Coronavirus Restrictions

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 17)

Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd

NNDM7523 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2020 ynghylch lefelau newydd o gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws yng Nghymru.

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddaru’r cynllun rheoli COVID-19 yng Nghymru - 11 Rhagfyr 2020

Dogfennau Ategol

Cynllun rheoli’r coronafeirws: lefelau rhybudd yng Nghymru

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Gwelliant 3 Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Ychwanegu’r canlynol fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod lefelau newydd y cyfyngiadau’n anghymesur ac yn niweidiol i fusnesau a bywoliaethau ar draws Cymru.

Cyd-gyflwynwyr

Mark Reckless

Gwelliant 4 Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Ychwanegu’r canlynol fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn strategaeth COVID-19 wahanol i un Llywodraeth y DU.

Cyd-gyflwynwyr

Mark Reckless

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 5 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Gwelliant 6 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru sy'n caniatáu ar gyfer rhoi cyfyngiadau ar waith ar lefel ranbarthol a lleol mewn ymateb i'r dystiolaeth wyddonol a'r gwahaniaethau o ran lefelau heintio coronafeirws mewn gwahanol rannau o'r wlad. 

Gwelliant 7 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am sicrhau bod cyfyngiadau a chymorth ynysu yn adlewyrchu, cymaint â phosibl, y gwahanol lefelau parhaus o haint mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 8 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Gwelliant 9 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.13

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7523 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2020 ynghylch lefelau newydd o gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws yng Nghymru.

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddaru’r cynllun rheoli COVID-19 yng Nghymru - 11 Rhagfyr 2020

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Gwelliant 3 Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod lefelau newydd y cyfyngiadau’n anghymesur ac yn niweidiol i fusnesau a bywoliaethau ar draws Cymru.

Cyd-gyflwynwyr

Mark Reckless

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

1

46

52

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn strategaeth COVID-19 wahanol i un Llywodraeth y DU.

Cyd-gyflwynwyr

Mark Reckless

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

1

47

52

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliant 5 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Gwelliant 6 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru sy'n caniatáu ar gyfer rhoi cyfyngiadau ar waith ar lefel ranbarthol a lleol mewn ymateb i'r dystiolaeth wyddonol a'r gwahaniaethau o ran lefelau heintio coronafeirws mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

9

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am sicrhau bod cyfyngiadau a chymorth ynysu yn adlewyrchu, cymaint â phosibl, y gwahanol lefelau parhaus o haint mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

32

52

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliant 8 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Gwelliant 9 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

1

52

Derbyniwyd gwelliant 9.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7523 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2020 ynghylch lefelau newydd o gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws yng Nghymru.

2. Yn croesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru sy'n caniatáu ar gyfer rhoi cyfyngiadau ar waith ar lefel ranbarthol a lleol mewn ymateb i'r dystiolaeth wyddonol a'r gwahaniaethau o ran lefelau heintio coronafeirws mewn gwahanol rannau o'r wlad.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

1

5

52

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.