Cyfarfodydd

Ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/09/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir: Ymateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio i’r llythyr gan y Cadeirydd ar 16 Mehefin

E&S(4)-20-14 papur 10

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.7 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 05/03/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Y wybodaeth ddiweddar ynghylch diogelu arfordir Cymru

E&S(4)-07-14 papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 23/01/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymateb i’r llifogydd a’r difrod stormydd diweddar - Tystiolaeth gan y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd

 

Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaeth, Bwyd a'r Môr

 

Dogfennau ategol:

  • Dogfen briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Cofnodion:

3.1 Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion am y gwaith ail-flaenoriaethu prosiectau a oedd yn caniatau i £2m fod ar gael yn y flwyddyn ariannol hon ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor pan oedd wedi asesu a ddylid gwneud apêl am gymorth Ewropeaidd.

 


Cyfarfod: 23/01/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymateb i’r llifogydd a’r difrod stormydd diweddar - Tystiolaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru

 

Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Peryglon Gweithredol a Llifogydd

Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol – Y Gogledd a’r Canolbarth

 

Cofnodion:

5.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Dadl ar adroddiad byr y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Ddiogelu'r Arfordir yng Nghymru

 

NDM5136 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i ddiogelu'r arfordir yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Ionawr 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

 

NDM5136 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i ddiogelu'r arfordir yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Ionawr 2013.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 04/10/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy - camau sy'n codi o'r cyfarod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf

E&S(4)-23-12 papur 2

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/07/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir - Papur gan Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

E&S(4)-21-12 paper 3 – Welsh Government

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papur.


Cyfarfod: 19/07/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir - Tystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

E&S(4)-21-12 papur 1: Llywodraeth Cymru

 

John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Nicola Edwards, Pennaeth y Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Prys Davies, Dirprwy Cyfarwyddwr - Is-adran Ynni, Dŵr a Llifogydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy’n ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Yn unol â cheisiadau a wnaed gan aelodau’r Pwyllgor, cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

·         Tabl sy’n cynnwys ffigurau ar wahân ar gyfer y dyraniadau ariannol a wneir ar gyfer rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol o gyllideb yr Adran, o gyllideb graidd y Llywodraeth ganolog ac o raglenni Ewropeaidd.

·         Gwybodaeth am y gwaith a wneir ar y cyd gyda’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ar y Bartneriaeth Môr Glas, mewn perthynas â diogelu’r arfordir a thwristiaeth.


Cyfarfod: 05/07/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ymchwiliad i ddiogelu'r arfordir - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar ddiogelu’r arfordir.

 


Cyfarfod: 05/07/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ddiogelu'r arfordir yng Nghymru - tystiolaeth lafar

09:00 – 10:00

E&S(4)-20-12 papur 1: Canolfan Monitro Arfordir Cymru

E&S(4)-20-12 papur 2: Ysgol Gwyddorau Daear a Môr Caerdydd

 

     Louise Pennington, Canolfan Monitro Arfordir Cymru

Emlyn Jones, Canolfan Monitro Arfordir Cymru

 

10:00 – 11:00

E&S(4)-20-12 papur 3: Cyngor Cefn Gwlad Cymru

E&S(4)-20-12 papur 4: Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

 

Dr Nicola Rimington, Gwyddonydd Ffisegol Morol ac Arfordirol, CCGW

Dr Susan Gubbay, Aelod o Gyngor CCGW

 

11:00 – 11:10 Egwyl

 

11.10 – 12:10

E&S(4)-20-12 papur 5: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

     Neville Rookes, Swyddog Llifogydd a Dŵr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

12:10 – 12:45 Egwyl

 

12:45 – 13:30

E&S(4)-20-12 papur 6: Atkins

E&S(4)-20-12 papur 7: Halcrow

E&S(4)-20-12 papur 8: Royal Haskoning

 

     Kath Winnard, Atkins

Kevin Owen, Atkins

Marcus Philips, Halcrow

Greg Guthrie, Royal Haskoning

 

13:30 – 14:30

E&S(4)-20-12 papur 9: yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

 

     Phil Dyke, Cynghorydd Morol ac Arfordirol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar ddiogelu’r arfordir.

 

2.2 Cytunodd Dr Rimington i ddarparu papurau gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar y mentrau sy’n cael eu datblygu o ran defnyddio prosesau naturiol at ddibenion diogelu.

 

2.3 Cytunodd Mr Dyke i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ynghylch a yw gwerthusiad yr Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig o gynllun Pathfinder ar gael.