Cyfarfodydd
P-05-1090 Diogelwch ar y ffyrdd: Gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr drwy Benparcau, Aberystwyth
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
2 P-05-1090 Diogelwch ar y ffyrdd: Gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr drwy Benparcau, Aberystwyth
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 214 KB Gweld fel HTML (2/1) 9 KB
- 12.01.21 Gohebiaeth – Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 229 KB
- 31.01.21 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 508 KB Gweld fel HTML (2/3) 4 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. O ystyried y wybodaeth a
gafwyd gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan gynnwys y
datganiad y dylai’r awdurdod lleol ymgynghori â'r gymuned ynghylch a ddylid
cynnwys y rhan hon o'r ffordd yn y rhaglen genedlaethol i osod terfyn cyflymder
diofyn o 20mya yn genedlaethol, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer y
gallai ei wneud ar lefel genedlaethol ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor,
felly, i ysgrifennu at y deisebydd i ddiolch iddo am godi’r mater, ac awgrymu y
dylai ofyn i Gyngor Sir Ceredigion ystyried ymateb y Dirprwy Weinidog, a
chaewyd y ddeiseb.