Cyfarfodydd

P-05-1081 Sicrhau bod perchnogion ail gartrefi a thai gwyliau ar rent yng Nghymru yn pleidleisio yn eu prif gyfeiriad yn unig, mewn etholiadau datganoledig a lleol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1081 Sicrhau bod perchnogion ail gartrefi a thai gwyliau ar rent yng Nghymru yn pleidleisio yn eu prif gyfeiriad yn unig, mewn etholiadau datganoledig a lleol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, yng ngoleuni'r ffaith ei bod yn rhy hwyr i wneud unrhyw newidiadau mewn perthynas ag etholiad y Senedd 2021 a'r ymatebion a gafwyd, gan gynnwys y ffaith y bydd y Comisiwn Etholiadol yn llunio adroddiad statudol yn dilyn yr etholiad yn cynnwys cytunwyd ar argymhellion ar gyfer etholiadau yn y dyfodol, nid yw’r Pwyllgor yn gallu gwneud llawer mwy ar hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr.

 


Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1081 Sicrhau bod perchnogion ail gartrefi a thai gwyliau ar rent yng Nghymru yn pleidleisio yn eu prif gyfeiriad yn unig, mewn etholiadau datganoledig a lleol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Comisiwn Etholiadol i ofyn am eu barn ar y ddeiseb a’r materion a nodwyd gan y deisebwyr, gan gynnwys esboniad llawnach o'r ‘meini prawf preswylio’ penodol y dylid eu defnyddio gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac i ba raddau y mae hyn yn cael ei fonitro a’i orfodi ar hyn o bryd.