Cyfarfodydd

SL(5)688 - Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 15)

Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020

NDM7506 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2020.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7506 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

9

5

52

Derbyniwyd y cynnig.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.00 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.


Cyfarfod: 14/12/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

SL(5)688 – Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.