Cyfarfodydd
Member Debate under Standing Order 11.21(iv) - Support for babies and new parents during Covid-19
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 09/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 09/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 09/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Cefnogaeth i fabanod a rhieni newydd yn ystod Covid-19
NDM7462 Lynne
Neagle (Torfaen)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y
dystiolaeth yn ddiamwys bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, o feichiogrwydd
i ddwy oed, yn gosod y sylfeini ar gyfer bywyd hapus ac iach a bod cysylltiad
cryf rhwng cefnogaeth a llesiant babanod yn ystod y cyfnod hwn a gwell
canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys cyflawniad addysgol,
cynnydd yn y gwaith a gwell iechyd corfforol a meddyliol.
2. Yn nodi, ers yr
achosion o COVID-19 a'r cyfyngiadau symud ac ymbellhau cymdeithasol a ddaeth yn
sgil hynny, fod corff cynyddol o ymchwil yn dangos bod rhieni'n wynebu pwysau
digynsail, pryderon uwch, a'u bod mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau
iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol.
3. Yn nodi bod arolwg
Babies in Lockdown 2020 wedi dangos bod 66 y cant o ymatebwyr o Gymru wedi nodi
mai iechyd meddwl rhieni oedd y prif bryder yn ystod
y cyfyngiadau symud: dim ond 26 y cant oedd yn teimlo'n hyderus y gallent
ddod o hyd i gymorth ar gyfer iechyd meddwl pe bai ei angen arnynt a bod 69 y
cant o rieni'n teimlo bod y newidiadau a gyflwynwyd gan COVID-19 yn effeithio
ar eu baban heb ei eni, babi neu blentyn ifanc.
4. Yn nodi bod ymchwil
New Parents and COVID-19 2020 wedi canfod bod dros hanner y 257 o
ymatebwyr sydd wedi rhoi genedigaeth ers y cyfyngiadau symud yn
teimlo bod eu profiad geni wedi bod yn anos na'r disgwyl oherwydd cyfyngiadau'r
coronafeirws, dros 60 y cant heb dderbyn unrhyw fath o archwiliad ôl-enedigol a
bron i chwarter am gael cymorth iechyd meddwl amenedigol.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth i deuluoedd yn ystod
beichiogrwydd a'r cyfnod amenedigol yn cael blaenoriaeth a bod y gweithlu
bydwreigiaeth, ymwelwyr iechyd ac iechyd meddwl amenedigol yn cael ei ddiogelu
rhag adleoli yn ystod y pandemig.
6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio'n rhagweithiol gyda byrddau iechyd i sicrhau y gall
menywod gael cymorth diogel gan eu partneriaid yn ystod ymweliadau ysbyty yn
ystod beichiogrwydd.
7. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddarparu buddsoddiad ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer
gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau gwirfoddol i ymdopi â'r
cynnydd yn y galw oherwydd COVID-19.
Babies in Lockdown (Saesneg yn unig)
New Parents and COVID-19 (Saesneg yn unig)
Cyd-gyflwynwyr
Cefnogwyr
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7462 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y
dystiolaeth yn ddiamwys bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, o feichiogrwydd
i ddwy oed, yn gosod y sylfeini ar gyfer bywyd hapus ac iach a bod cysylltiad
cryf rhwng cefnogaeth a llesiant babanod yn ystod y cyfnod hwn a gwell
canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys cyflawniad addysgol,
cynnydd yn y gwaith a gwell iechyd corfforol a meddyliol.
2. Yn nodi, ers yr
achosion o COVID-19 a'r cyfyngiadau symud ac ymbellhau cymdeithasol a ddaeth yn
sgil hynny, fod corff cynyddol o ymchwil yn dangos bod rhieni'n wynebu pwysau
digynsail, pryderon uwch, a'u bod mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau iechyd
meddwl yn y cyfnod amenedigol.
3. Yn nodi bod arolwg
Babies in Lockdown 2020 wedi dangos bod 66 y cant o ymatebwyr o Gymru wedi nodi
mai iechyd meddwl rhieni oedd y prif bryder yn ystod
y cyfyngiadau symud: dim ond 26 y cant oedd yn teimlo'n hyderus y gallent
ddod o hyd i gymorth ar gyfer iechyd meddwl pe bai ei angen arnynt a bod 69 y
cant o rieni'n teimlo bod y newidiadau a gyflwynwyd gan COVID-19 yn effeithio
ar eu baban heb ei eni, babi neu blentyn ifanc.
4. Yn nodi bod ymchwil
New Parents and COVID-19 2020 wedi canfod bod dros hanner y 257 o
ymatebwyr sydd wedi rhoi genedigaeth ers y cyfyngiadau symud yn
teimlo bod eu profiad geni wedi bod yn anos na'r disgwyl oherwydd cyfyngiadau'r
coronafeirws, dros 60 y cant heb dderbyn unrhyw fath o archwiliad ôl-enedigol a
bron i chwarter am gael cymorth iechyd meddwl amenedigol.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth i deuluoedd yn ystod beichiogrwydd
a'r cyfnod amenedigol yn cael blaenoriaeth a bod y gweithlu bydwreigiaeth, ymwelwyr
iechyd ac iechyd meddwl amenedigol yn cael ei ddiogelu rhag adleoli yn ystod y
pandemig.
6. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio'n rhagweithiol gyda byrddau iechyd i sicrhau y gall menywod
gael cymorth diogel gan eu partneriaid yn ystod ymweliadau ysbyty yn ystod
beichiogrwydd.
7. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddarparu buddsoddiad ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer gwasanaethau
iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau gwirfoddol i ymdopi â'r cynnydd yn y
galw oherwydd COVID-19.
Babies in
Lockdown (Saesneg yn unig)
New Parents and
COVID-19 (Saesneg yn unig)
Cyd-gyflwynwyr
Cefnogwyr
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
41 |
12 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.