Cyfarfodydd

NDM7505 Welsh Conservatives Debate - Coronavirus - December Restrictions

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Coronafeirws – Cyfyngiadau mis Rhagfyr

NDM7505 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cyfyngiadau coronafeirws a osodwyd ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do yng Nghymru o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.

2. Yn gresynu at effaith andwyol y cyfyngiadau ar fusnesau a swyddi yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) atal y cyfyngiadau ar unwaith; a

b) mabwysiadu dull mwy cymesur wedi'i dargedu o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.35

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7505 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cyfyngiadau coronafeirws a osodwyd ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do yng Nghymru o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.

2. Yn gresynu at effaith andwyol y cyfyngiadau ar fusnesau a swyddi yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) atal y cyfyngiadau ar unwaith; a

b) mabwysiadu dull mwy cymesur wedi'i dargedu o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

9

27

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.